Dweud eich dweud ar gyflog a lwfansau Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dweud eich dweud ar gyflog a lwfansau Aelodau’r Cynulliad

Faint ddylai Aelodau’r Cynulliad ei hawlio pan maent oddi cartref? Ar beth ddylai Aelodau’r Cynulliad gael gwario eu lwfansau? A yw’r system yn deg a thryloyw?

Dyma’r cwestiynau a ofynnir ar hyn o bryd gan banel annibynnol sy’n ymchwilio i’r cyflog a’r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad. Bydd y Panel, sy’n atebol i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ceisio barn ar gyflogau, treuliau, lwfansau ar gyfer costau swyddfa a staff cymorth, adeiladau yn eu hetholaethau a thechnoleg gwybodaeth a ddarperir i Aelodau’r Cynulliad.

Gwahoddir y cyhoedd i ysgrifennu, e-bostio neu leisio eu syniadau a’u hawgrymiadau yn un o’r dulliau canlynol:

Venue Cymru, Llandudno, gogledd Cymru ddydd Gwener 5 Rhagfyr rhwng 10.00am a 12.30pm.

Celtic Suite, Canolfan Rhodfa Colchester, Caerdydd, dydd Mawrth 27 Ionawr am 10:00-12:30

Ffoniwch 029 2089 8664 neu 029 2082 1833 i gael rhagor o fanylion am sut i fynychu’r digwyddiadau.

Esbonia Syr Roger Jones, Cadeirydd y Panel:

“Prif swyddogaeth Aelodau’r Cynulliad yw cynrychioli’n buddiannau pan fyddant yn pasio deddfau a fydd yn effeithio ar fywydau pawb sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn benderfynol, felly, y dylai pobl gael dweud eu dweud ynglyn â sut a gânt eu talu a sut y cânt arian i’w helpu i gyflawni’r rôl hon yn effeithiol.  

“Bu trafod sylweddol yn gyhoeddus am y modd y mae gwleidyddion etholedig yn derbyn taliadau a chymorth am eu gwaith. Mae hwn yn gyfle da i unigolion neu grwpiau gyflwyno eu barn, naill ai’n ysgrifenedig neu’n bersonol yn un o’r cyfarfodydd cyhoeddus, ynglyn ag a oes angen newid y system bresennol ai peidio a/neu i rannu unrhyw syniadau sydd ganddynt ar gyfer gwella.                               

“Gyda chymorth pobl, rydym am sicrhau y bydd unrhyw system gyflog a lwfansau newydd yn deg, yn dryloyw ac yn cydnabod sgiliau Aelodau’r Cynulliad a sgiliau’r staff sy’n eu helpu yn eu gwaith ac yn eu gwobrwyo am eu sgiliau. Rydym hefyd am sicrhau bod y system yn darparu’r gwerth am arian gorau.”

Nodyn i newyddiadurwyr :

1.Caiff y Panel Annibynnol i Adolygu Lwfansau’r Aelodau ei gadeirio gan Syr Roger Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe. Aelodau eraill y panel yw’r Gwir Anrh Dafydd Wigley, Nigel Rudd (cyn Brif Weithredwr, Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr) a Jackie Nickson, (Rheolwr Adnoddau Dynol, Opagus Group Ltd).

2.Mae gan Aelodau’r Cynulliad hawl i lwfansau i dalu costau megis costau swyddfa a chostau eraill sy’n dod i’w rhan wrth wneud eu gwaith. Mae rhagor o fanylion i’w cael am y lwfansau cyfredol yn yr adran aelodau