Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Dwyn Llywodraeth Cymru i Gyfrif: Cadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd wedi'u hethol

Cyhoeddwyd 29/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/08/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae Aelodau'r Senedd wedi ethol y Cadeiryddion i arwain y Pwyllgorau newydd ar gyfer y tymor seneddol nesaf. 

Ar ran pobl Cymru, mae Pwyllgorau’r Senedd yn cynnal llawer o swyddogaethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn Gweinidogion i gyfrif, ac archwilio deddfwriaeth newydd arfaethedig. 

Cadeiryddion a Etholwyd Heddiw 

Jane Bryant AS (Llafur Cymru, Gorllewin Casnewydd)
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg  

Russell George AS (Ceidwadwyr Cymreig, Sir Drefaldwyn)
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

Paul Davies AS (Ceidwadwyr Cymreig, Preseli Sir Benfro)
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig  

Llyr Gruffydd AS (Plaid Cymru, Gogledd Cymru)
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith  

Jenny Rathbone AS (Llafur Cymru, Canol Caerdydd)
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol  

Delyth Jewell AS (Plaid Cymru, Dwyrain De Cymru)
Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol  

John Griffiths AS (Lafur Cymru, Dwyrain Casnewydd)
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai  

Peredur Owen Griffiths AS (Plaid Cymru, Dwyrain De Cymru)
Y Pwyllgor Cyllid  

Mark Isherwood AS (Ceidwadwyr Cymreig, Gogledd Cymru)
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus  

Huw Irranca-Davies AS (Llafur Cymru, Ogwr)
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  

Vikki Howells AS (Llafur Cymru, Cwm Cynon)
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad  

Jack Sargeant AS (Llafur Cymru, Alun a Glannau Dyfrdwy)
Y Pwyllgor Deisebau  

Mae gan y pwyllgorau polisi a deddfwriaeth chwe Aelod, mae gan bwyllgorau arbenigol bedwar ac mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus bump. 

Bydd aelodaeth lawn y Pwyllgorau yn cael ei hethol gan Aelodau'r Senedd yr wythnos nesaf.