Dy Gynulliad di – dy lais di, dy ffordd di. Y Llywydd yn cyhoeddi Siarter y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc

Cyhoeddwyd 16/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn lansio Siarter Pobl Ifanc yn y Senedd ar 16 Gorffennaf.

Mae’r Siarter, a gaiff ei lofnodi gan y Fonesig Rosemary ac arweinwyr y pedair plaid wleidyddol, yn sail i ymrwymiad y Cynulliad i gynyddu ei ymgysylltiad â phobl ifanc Cymru.

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar â phobl ifanc ar ffyrdd o’u hannog a’u cefnogi i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad.

Ymatebodd dros 3,000 o bobl ifanc i’r ymgynghoriad hwnnw - yr ymateb mwyaf a gafwyd erioed i ymgynghoriad y Cynulliad.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae’n amlwg o’r ymatebion i’r ymgynghoriad fod awydd mawr gan bobl ifanc ledled Cymru i gael dweud eu dweud ar y materion sydd o bwys iddynt."

"Ac fy ymrwymiad heddiw yw sicrhau y bydd yn rhan o’n blaenoriaeth i ddarparu cyfle i gyfrannu at waith y Cynulliad i bob person ifanc yng Nghymru.

"Nid arwydd symbolaidd yn unig mo’r Siarter - nid un digwyddiad blynyddol syml, pan fyddwn yn canolbwyntio ar ieuenctid Cymru, yn hytrach, caiff pobl ifanc Cymru eu gosod yn gadarn wrth wraidd ein holl weithgareddau ymgysylltu.

"Mae Comisiwn y Cynulliad bellach wedi cytuno ar weledigaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc. Rydym am i’r Cynulliad gael ei weld fel arweinydd byd o ran ymgysylltu â phobl ifanc, lle y bydd galluogi pobl ifanc i gael clust i wrando ar eu barn ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw, a rhoi gwerth ar eu barn wrth wraidd democratiaeth Cymru.

"Ategir y gwaith hwn gan Siarter newydd sy’n gontract rhyngom â phobl ifanc Cymru. Mae’n amlinellu’r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan y Cynulliad, a’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt hwy.

"Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i arweinwyr yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd am ymuno â mi i lofnodi’r ymrwymiad hwn."

Mae tair rhan allweddol i ddull gweithredu Comisiwn y Cynulliad yn hyn o beth:

  • estyn allan Bydd y Cynulliad yn sicrhau, lle bynnag y maent, a beth bynnag fo’u cefndir, y gall pobl ifanc yng Nghymru ddod o hyd i wybodaeth am y gwaith a wneir gan y Cynulliad, fel y gallant benderfynu sut y mae’n berthnasol i’w dyheadau a’u diddordebau hwy;

  • galluogi trafodaeth. Byddwn yn darparu amrywiaeth o ffyrdd i bobl ifanc gymryd rhan yn ein gwaith, sy’n hwyl, yn ysbrydoli ac wedi’u teilwra; ac

  • adborth. "Byddwn yn esbonio i bobl ifanc sut y mae eu cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth, fel eu bod hwy ac eraill yn cael eu hysbrydoli i ymgysylltu rhagor.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau y bydd nifer o welliannau i’r gwasanaeth, i gynorthwyo i gyflawni’r weledigaeth hon.

Maent yn cynnwys:

  • cyflwyno sgiliau gweithiwr ieuenctid i gyd-fynd â’r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli yn ein timau Addysg ac Allgymorth;

  • cryfhau ein rhwydweithiau o grwpiau ieuenctid a sefydliadau eraill;

  • sefydlu rhaglen o ddigwyddiadau i roi pobl ifanc wrth galon ein gwaith ymgysylltu;

  • cynnig rhagor o gyfleoedd i ymgysylltu y tu allan i amgylchedd yr ysgol, er mwyn gwireddu ein penderfyniad i gynnwys pobl ifanc o grwpiau anodd eu cyrraedd;

  • datblygu pecynnau cymorth i gasglu arferion gorau a chyngor at ei gilydd, i Aelodau a staff, gan weithio fel Pwyllgorau yn ogystal ag yn yr etholaethau; a

  • manteisio i’r eithaf ar ein presenoldeb ar-lein drwy ddefnyddio ein gwefan ieuenctid fel canolbwynt gwybodaeth a thrafodaeth, yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Caiff y Siarter ei lansio gyda chyfres o ddigwyddiadau â phobl ifanc, o bob rhan o Gymru, yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 16 Gorffennaf.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

 

Amser

Lleoliad

Gweithgaredd

Manylion y rhai sy'n cymryd rhan

10.10

Siambr Hywel, Y Neuadd (Tŷ Hywel), Ystafell Ddosbarth Siambr Hywel

Pwyllgorau Gweithdai

Pwyllgorau, Addysg, Ysgolion, Cadeirydd Pwyllgor

11.15-12.15

Siambr Hywel

Sesiwn Hawl i Holi

Y Panel: Rhun ap Iorwerth AC, Suzy Davies AC, Aled Roberts AC, Ken Skates AC

Cadeirydd: Nick Servini, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

12.15-13.20

Y Senedd

Digwyddiad lansio amser cinio

Bydd y Llywydd a'r Comisiynydd Plant yn annerch

13.30

Siambr y Senedd

Datganiadau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn

Bydd y Llywydd ac Arweinwyr y Pleidiau'n gwneud datganiadau byr i bwysleisio eu hymrwymiad i bobl ifanc

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhagor o wybodaeth am wefan Dy Gynulliad di: - Dy lais di, dy ffordd di.