Dyfodol polisïau datblygu amaethyddol a gwledig yng Nghymru - ymgynghoriad pwyllgor

Cyhoeddwyd 25/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/08/2016

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried sut i gynllunio ar gyfer datblygu amaethyddol a gwledig yng Nghymru ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn gofyn i bobl am eu barn a'u syniadau am y newidiadau mwyaf, efallai, ers i'r DU ymuno â marchnad gyffredin Ewrop dros 40 mlynedd yn ôl.

Mae Cymru yn cael mwy o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd nag y mae'n ei gyfrannu a hynny oherwydd rhaglenni fel y polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin (ynghyd â ffynonellau eraill fel cyllid strwythurol). Mae amaethyddiaeth yn werth tua £ 1.5 biliwn i economi Cymru ac mae'r diwydiant yn cyflogi dros 58,000.

Yn y refferendwm ym mis Mehefin, pleidleisiodd Cymru yn bendant i adael yr UE  ac roedd y ganran a bleidleisiodd a'r nifer a bleidleisiodd o blaid gadael yn uchel mewn ardaloedd gwledig fel Powys, Ceredigion a Sir Benfro.

Dyma'r cwestiynau y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried yn ystod yr ymchwiliad:

  • Beth yw'r canlyniadau sylfaenol rydym am eu sicrhau wrth ddatblygu polisïau datblygu amaethyddol a gwledig?
  • Pa wersi y gallwn eu dysgu o'r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd a pholisïau'r gorffennol? Beth am y polisïau sydd ar waith mewn mannau eraill?
  • A ddylai Cymru ddatblygu ei pholisïau ei hun ym maes datblygu amaethyddiaeth a datblygu gwledig, neu a ddylai'r wlad fod yn rhan o fframwaith polisi ehangach a gaiff ei roi ar waith ledled y DU?

 
"Am gyfnod o dros ddeugain mlynedd, mae amaethyddiaeth yng Nghymru, y tirweddau a'r amgylchedd y mae'n effeithio arnynt, a'r cymunedau gwledig sy'n dibynnu ar y diwydiant, wedi'u llywio gan bolisïau a bennir ar lefel Ewropeaidd, er y cawsant eu haddasu'n lleol, i raddau," meddai Mark Reckless AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

"Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bosibl y bydd penderfyniadau ynghylch polisïau a chyllid i gefnogi'r sector amaethyddol, y gwaith o reoli tir yng Nghymru a'n cymunedau gwledig yn cael eu gwneud yng Nghymru.

Rydym yn awyddus i drafod yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r polisïau newydd y bydd angen eu creu ar gyfer Cymru i ddisodli'r polisïau a bennir ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Gellir gweld y broses hon fel cyfle i ailstrwythuro polisïau amaethyddol a gwledig Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y wlad. Wrth lunio polisïau newydd, bydd yn rhaid egluro'n bendant y canlyniadau y bwriedir eu cyflawni ar gyfer pobl Cymru, a sicrhau bod pawb yn eu deall."

Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor wneud hynny drwy gymryd rhan yn y  drafodaeth ar-lein. Fel arall, os hoffech drafod ffordd wahanol o gyfrannu, gallwch gysylltu â Chlerc y Pwyllgor drwy e-bostio  SeneddCCERA@cynulliad.cymru , neu drwy ffonio 0300 200 6565.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei waith ar Twitter  @SeneddCCERA .