Dylai Llywodraeth Cymru chwarae rôl gryfach o ran diwygio lles yn ôl Pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 29/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2015

Canfu ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru i effaith newidiadau lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru y dylai Llywodraeth Cymru arwain fwy ar y mater.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a darparwyr cyngor, ac mae wedi llunio 17 argymhelliad y mae'n credu y byddant yn gwella ymateb Llywodraeth Cymru i newidiadau yn y dyfodol ac yn sicrhau bod Cymru wedi paratoi'n well o ran rhagweld eu heffaith.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

"Yn groes i arfer Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, mae'r adroddiad hwn yn trafod goblygiadau polisi nad ydyw wedi'i ddatganoli a'i effaith ar wasanaethau datganoledig. 

"Mae lleihau'r gost gyffredinol sydd ynghlwm wrth les wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth San Steffan wrth leihau'r diffyg cyhoeddus, ac mae hynny wedi arwain at newidiadau sylfaenol i'r system fudd-daliadau a goblygiadau sylweddol i'r sector tai yng Nghymru.

"Mae cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr wedi ysgogi darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu tai sy'n ymateb yn well i'r sefyllfa gyfredol o ran budd-daliadau ac sy'n diwallu anghenion tenantiaid mewn modd mwy priodol.

"Mae hefyd angen sicrhau bod tenantiaid tai cymdeithasol yn cael digon o wybodaeth am sut y bydd newidiadau'n effeithio arnynt, i'w grymuso i wneud y penderfyniadau gorau er eu lles nhw a'u teuluoedd.

"Yn y pen draw, pan fo anghydfodau gwleidyddol neu'r methiant i gydweithio neu ymateb yn ddigon cyflym i newidiadau yn amharu ar y gwasanaethau a ddarperir, tenantiaid cymdeithasol a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sy'n dioddef."

Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru (PDF, 712 MB)