Dylai swyddi sy'n hyrwyddo'r Gymraeg fod yn ganolog i gynllun adferiad economaidd Cymru

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020

Dylai swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg fod yn rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi Cymru ar ôl pandemig y Coronafeirws. 

Canfu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebur Senedd y gallai canslo digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a thoriadau yn y cyllid i gefnogi darpariaeth Gymraeg, olygu bod swyddi gwerthfawr, sgiliau uchel yn diflannu yng Nghymru. 

Dywedodd Betsan Moses, o'r Eisteddfod Genedlaethol, wrth y Pwyllgor: 

Mi oedd gennym ni gytundebau gwerth £1.9 miliwn allan ar y pryd. Bu'n rhaid negydu gyda chyflenwyr ar gyfer eu symud. Mae yna 2,000 o swyddi yn rhannol neu'n ddibynnol ar yr Eisteddfod ar gyfer incwm, ac felly mi wnaeth hynny ddiflannu. - Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Clywodd yr Aelodau fod tri chwarter staff yr Urdd ar ffyrlo ac y gallai nifer y staff haneru hyd yn oed. Mae dau o bod tri o staff y Mentrau Iaith hefyd ar ffyrlo. 

Cyn i Lywodraeth y DU ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi i fis Mawrth 2021, dywedodd Lowri Jones o Fentrau Iaith wrth y Pwyllgor: 

Fe fydd y cyfnod ar ôl mis Hydref yn anodd iawn os yw'r cynllun arbed swyddi'n dod i ben, fel dŷn ni'n disgwyl, o ran parhau i gynnal y gwasanaeth angenrheidiol yna i rieni, drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n ceisio dychwelyd i weithio neu'n cyfuno gweithio o gartref, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, y gwerth mawr hefyd yw bod y swyddi yna'n swyddi cyfrwng Cymraeg o fewn sectorau penodol, a'n bod ni eisiau gweld gweithleoedd cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, nid yn crebachu.” - Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru 

Un agwedd gadarnhaol yn ystod y pandemig oedd y newid i ddigwyddiadau rhithwir Cymraeg ar-lein, yn ogystal â chynnydd sydyn yn nifer y bobl sydd am ddysgur Gymraeg dros y rhyngrwyd, gan gynnwys pobl dramor. 

Dywedodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth y Pwyllgor fod bron i 8,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau blasu ar-lein ers mis Mawrth - mwy nag yn y tair blynedd flaenorol gyda'i gilydd. 

Ond torrodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn o gyllid y ganolfan am nad oedd yn gallu cynnal dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac yr oedd yn arbed arian o ganlyniad. Mae'r Pwyllgor or farn y dylai'r gostyngiad fod yn un dros dro yn unig, ac y dylai ei chyllideb gael ei hadfer yn llawn cyn gynted â phosibl. 

Dywedodd Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 

Mae pandemig y Coronafeirws wedi cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, cymunedau a busnesau ledled y byd ac afraid dweud mai'r blaenoriaethau yw, yn gyntaf, ddod âr feirws o dan reolaeth cyn ailgodi ein heconomi ddrylliedig. 

Rydym or farn bod cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan allweddol o'r adferiad hwnnw, a dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru nodi hynny'n glir yn ei chynlluniau. 

Rydym yn cymeradwyo gwaith caled a dyfeisgarwch unigolion a sefydliadau am y digwyddiadau rhithwir y maen nhw wedi eu cynnal a'r dosbarthiadau ar-lein maen nhw wedi eu trefnu i barhau i gefnogir Gymraeg yn y cyfnod hwn. 

Rydym am weld cyllid y sefydliadau hyn yn cael ei adfer fel y gallan nhw barhau gyda'u gwaith. Rhaid i hyn beidio â bod yn gam yn ôl ar adeg pan ddylem fod yn gwthio ymlaen. 

Yn sicr, da o beth ywr cynnydd sydyn yn nifer y bobl syn cofrestru ar gyfer cyrsiau blasu, a chredwn fod cyfleoedd y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio arnynt fel rhan o'i chynlluniau Cymraeg 2050. - Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Mae'r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad, yn ei adroddiad, gan gynnwys: 

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw ailddyrannu cyllid y Gymraeg yn y tymor byr, oherwydd y pandemig, yn arwain at ddyraniadau cyllid tymor hwy a allai dynnu oddi ar gyflawni nodau Cymraeg 2050. Dylai Llywodraeth Cymru adfer y dyraniadau cyllideb ar gyfer cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yn llawn, a hynny cyn gynted â phosibl. 
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ledled Cymru yn ganolog i'w chynllun ar gyfer adfer yr economi. 
  • Dylai cynllun gweithredu nesaf strategaeth Cymraeg 2050 ystyried yn llawn y newidiadau o ran cyfleoedd dysgu sydd bellach ar gael. Bydd angen iddo ystyried y ffyrdd y gellir cyfuno dysgu ar-lein a gwersi personol i weddu orau i ddysgwyr, a lefel y cyllid sydd ei angen i sicrhau y gellir cynnal y twf mewn dysgu ar-lein. 

Bydd y Senedd yn trafod canfyddiadaur Pwyllgor ar 16 Rhagfyr.