Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhad ac am ddim i bobl ifanc

Cyhoeddwyd 23/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/06/2024   |   Amser darllen munudau

Dylai gwaith paratoi ar gynllun trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc ddechrau ar unwaith, i sicrhau buddion i’r amgylchedd a chreu cenhedlaeth sy’n llai dibynnol ar geir. 

Mae Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant trafnidiaeth nawr i ddechrau trafod sut y byddai’r cynllun yn gweithio.   

Wedi’i sbarduno gan ddeiseb ac ymgyrch gyhoeddus ac yn seiliedig ar waith Senedd Ieuenctid Cymru, mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd heddiw 23 Mai, yn dod i’r casgliad bod yr uchelgais yn ymarferol ac y byddai’n cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas a’r amgylchedd. 

Y llynedd, canfu ymchwil gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant mai’r gost flynyddol leiaf am drafnidiaeth i anfon plentyn i’r ysgol uwchradd yw bron i £500. Mae adroddiad y Pwyllgor yn dadlau y byddai trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc yn helpu i leddfu tlodi plant a’r pwysau costau byw sy’n wynebu teuluoedd ledled Cymru.  

Yn ogystal â chlywed tystiolaeth gan arbenigwyr ym maes trafnidiaeth, siaradodd y Pwyllgor ag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru gan gyfeirio at eu hadroddiad ‘Ffyrdd Gwyrdd’ a luniwyd yn dilyn yr ymchwiliad i’r mater y llynedd. 

Dywedodd bron i 75 y cant o dros fil o bobl ifanc a holwyd y byddent yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy aml pe bai’n rhad ac am ddim.  

Credit: Ffion Fairclough

Dywedodd Ffion Fairclough, wrth siarad â’r Pwyllgor fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: “Os yw pobl yn gweld bod trafnidiaeth gyhoeddus yn anghyfleus, naill ai oherwydd dibynadwyedd neu bris, yna byddan nhw’n dewis defnyddio’r car. 

“Dylai mwy o arian gael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus i gynyddu nifer y bobl sy’n ei defnyddio, a dylai rhan o’r arian hwn gael ei wario i ddarparu gwasanaeth am ddim i bobl dan 25 oed. Pe bai cynllun fel hwn yn cael ei gyflwyno, byddai pobl iau nid yn unig yn elwa’n gymdeithasol, ond bydden nhw hefyd yn cael rhagor o gyfleoedd gwaith.  

“Yr isafswm cyflog i brentisiaid neu’r rhai 16-17 oed yw £6.40 yr awr yn unig, ond mae tocyn dwyffordd o Bontypridd i Gaerdydd yn costio bron i £9.” 

Mae Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, hefyd wedi galw am drafnidiaeth am ddim i bobl ifanc yn ei hadroddiad blynyddol diweddaraf; a galwodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar y pryd, am hynny ym mis Tachwedd 2022. 

Edrychodd y Pwyllgor yn ofalus ar gynllun tebyg, hynod lwyddiannus yn yr Alban sydd wedi darparu dros 100 miliwn o deithiau bws am ddim i bobl dan 22 oed ers ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl ac a allai fod yn lasbrint i Gymru.   

Mae’r pwysau ariannol presennol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn cael eu cydnabod, ond mae’r adroddiad yn dadlau y dylai gwaith gael ei wneud er hynny i baratoi ar gyfer y polisi. 

Jack Sargeant, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Gallai trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc fod yn bolisi trawsnewidiol a fyddai’n lliniaru costau byw i deuluoedd, cefnogi ein huchelgeisiau o ran yr hinsawdd a helpu i adfer y sector bysiau ar ôl y pandemig. 

“Siaradodd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru â ni’n angerddol am yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chytunodd arbenigwyr ar draws sawl sector i gyd ar y manteision y gallai’r cynllun hwn eu cynnig. 

“Mae’r polisi hwn yn fuddsoddiad yn ein hieuenctid, yn fuddsoddiad mewn dyfodol gwyrddach, ac yn gam tuag at sicrhau ein bod yn llai dibynnol ar geir. Mae arian yn dynn ar hyn o bryd, ond mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant tuag at sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru.”