Y Siambr

Y Siambr

Dylanwad Deisebau: Cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn y Senedd yn cychwyn

Cyhoeddwyd 19/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/06/2023   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae’r bleidlais yn agor ar gyfer cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn y Senedd i gydnabod a dathlu cyfraniad ymgyrchwyr yng Nghymru. 

Ar ôl i bum deiseb gael eu rhoi ar y rhestr fer gan y Pwyllgor Deisebau, gofynnir i’r cyhoedd bleidleisio dros y ddeiseb sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru.  

Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, cafodd y Pwyllgor 187 o ddeisebau gyda bron i 130,000 o bobl yng Nghymru yn cynnig eu llofnod i gefnogi achos. 

O’r 187 o ddeisebau, enwebodd Aelodau’r Pwyllgor bum deiseb ar gyfer rhestr fer y gystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn a oedd yn nodi’r amrywiaeth o bynciau y mae pobl Cymru wedi bod yn ymgyrchu drostynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  

Roedd y deisebau a enwebwyd yn galw am: 

  

Ar ôl i’r bleidlais ddod i ben ar 30 Mehefin, caiff y canlyniad ei gyhoeddi yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar 3 Gorffennaf. Yna bydd y sawl sy’n creu’r ddeiseb sy’n ysbrydoli’r cyhoedd fwyaf yn cael ei wahodd i’r Senedd i gwrdd â David Rees AS, y Dirprwy Lywydd, a Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. 

Yn 2022, cyflwynwyd Deiseb y Flwyddyn gan Rhian Mannings a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig rhagor o gefnogaeth i rieni sy’n profi colli plentyn yn sydyn.  

Dywedodd Jack Sargeant AS, “Yn dilyn lansiad llwyddiannus y llynedd, mae’n bleser cyhoeddi enwebiadau Deiseb y Flwyddyn eleni, a dathlu’r angerdd a’r egni a ddangoswyd gan ymgyrchwyr ledled y wlad.    

“Mae’r Pwyllgor Deisebau yn perthyn i bawb yng Nghymru a gallai unrhyw un sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth weld eu deiseb yn cael ei hystyried neu ei thrafod yn y Senedd. Mae'r pum deiseb hyn wedi cael effaith sylweddol; o godi ymwybyddiaeth, i newidiadau polisi Llywodraeth Cymru. Mae pob un wedi gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.   

“Mae cyrraedd y cam hwn yn gwneud i Lywodraeth Cymru gymryd sylw o ymgyrchoedd pobl, ac mae’n aml yn golygu eu bod yn derbyn y gofynion sy’n cael eu gwneud, fel rydym wedi gweld yn y rhai a enwebwyd eleni.     

“Dyma gyfle gwych i ddathlu gwaith ac angerdd pawb sydd wedi cyflwyno, arwyddo, rhannu a chefnogi deiseb dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch i bawb sydd wedi cyflwyno deiseb, a phob lwc i’r pum enwebai.”