Deiseb y Flwyddyn 2023

Sut allwch chi wneud newid parhaol yng Nghymru?

Gall dechrau deiseb newid bywydau pobl yn eich cymuned, a ledled Cymru. 

Pleidleisiwyd dros ddeiseb i wella diogelwch dŵr ac atal boddi fel Deiseb y Flwyddyn 2023. 

Llongyfarchiadau i’r deisebydd Leeanne Bartley. 

Enwebwyd pump o ddeisebau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y deisebau i’w chael isod. 

Deisebau a enwebwyd

Enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023

Cewch glywed sut y defnyddiodd y pum enwebiad ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023 eu lleisiau i wneud newid parhaol.


Llwyfan i’ch llais

A oes mater yr hoffech ei godi i'r Senedd?

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yw llofnodi neu ddechrau deiseb.

Mae pob deiseb gyda mwy na 250 o lofnodion yn cael ei thrafod yn y Pwyllgor Deisebau.

Os bydd deiseb yn cael 10,000 o lofnodion bydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

 


Mae’r Pwyllgor Deisebau yn perthyn i bawb yng Nghymru. Gallai unrhyw un sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth weld eu deiseb yn cael ei hystyried neu ei thrafod yn y Senedd. Mae’r pum deiseb hon wedi cael effaith sylweddol – o godi ymwybyddiaeth i newid polisi Llywodraeth Cymru – gyda phob un yn gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru.


Jack Sargeant AS

Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau

 

 

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Deisebau