Gofal iechyd endometriosis - Deiseb y Flwyddyn 2023

Cyhoeddwyd 13/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2023   |   Amser darllen munudau

Deiseb i wella gofal iechyd endometriosis yng Nghymru.

“Mae endometriosis yn difetha bywydau menywod a’u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru gydag 1 o bob 10 yn dioddef o'r cyflwr. Nid yw achos endometriosis yn hysbys, nid oes gwellhad, yr amser diagnosis ar gyfartaledd yw wyth mlynedd a hanner ac mae rhestr aros chwe blynedd am driniaeth ar y GIG.” – Beth Hales, Deisebydd

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:

  • Diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o endometriosis.
  • Mae endometriosis yn effeithio ar ofal iechyd ac addysg, ac ar lefelau economaidd, ariannol a chymdeithasol o'r gymdeithas.

Beth ddigwyddodd?

  • Cafodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a chan bob Bwrdd Iechyd.
  • Mae'r Pwyllgor yn parhau i dynnu sylw at yr angen am ymchwil bellach, ac at bwysigrwydd ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad o fyw wrth ddatblygu'r Cynllun Iechyd Menywod.

 


Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023

Gwahardd rasio milgwn

Rhieni sydd wedi bod mewn gofal

Gofal canser y fron metastatig

Diogelwch dŵr