Rhieni sydd wedi bod mewn gofal - Deiseb y Flwyddyn 2023

Cyhoeddwyd 13/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2023   |   Amser darllen munudau

Deiseb i wella cefnogaeth i rieni sydd wedi bod mewn gofal.

“Mae llawer o reini sy’n gadael gofal yn profi ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol pan fyddant yn rhoi genedigaeth.  Ar hyn o bryd, os oes unrhyw bryderon, mae rhiant yn cael ei gludo o’i gartref, ei deulu a’i ffrindiau ac yna’n cael ei roi mewn cartref maeth neu gartref preswyl i’w asesu heb fawr o ystyriaeth i’r hyn sy’n sbarduno’r rhiant, a’i les meddyliol. Rydym am wybod y ffeithiau i weld a oes angen ateb gwell ar gyfer y rhiant a'r plentyn.” – Deisebydd

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:

  • Mae llawer o rieni sydd wedi bod mewn gofal yn aml yn wynebu gwahaniaethu ac nid oes ganddynt y cymorth angenrheidiol.
  • Nid yw gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd i blant rhieni sydd wedi bod mewn gofal yn cael ei chasglu fel mater o drefn.

Beth ddigwyddodd?

  • Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan rieni sydd wedi bod mewn gofal a chan amrywiaeth o arbenigwyr.
  • Cyfrannodd y dystiolaeth hon hefyd i ymchwiliad ehangach i ddiwygiadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 
  • Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y Pwyllgor mewn egwyddor a bydd yn ymchwilio i sut y gallant gasglu’r data.

 


Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023

Gwahardd rasio milgwn

Gofal iechyd endometriosis

Gofal canser y fron metastatig

Diogelwch dŵr