Heddiw, mae Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn lansio’r gystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn gyntaf erioed, i gydnabod a dathlu cyfraniad ymgyrchwyr yng Nghymru.
Ar ôl i bum deiseb gael eu rhoi ar y rhestr fer gan y Pwyllgor, mae yna nawr gyfle i’r cyhoedd bleidleisio am y ddeiseb sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru.
Enwebodd aelodau’r Pwyllgor ystod eang o ddeisebau i nodi’r amrywiaeth o bynciau y mae pobl Cymru wedi bod yn ymgyrchu drostynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben ar 29 Awst, bydd crëwr y ddeiseb fuddugol yn cael ei wahodd i’r Senedd i gwrdd â’r Dirprwy Lywydd, David Rees AS.
Roedd y pum deiseb ar y rhestr fer yn galw am yr hyn a ganlyn:
- Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd
- Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd
- Cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl
- Sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU
- Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, “Heddiw, rydym yn lansio cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn flynyddol gyntaf y Senedd i ddathlu gwaith pawb sydd wedi cyflwyno, llofnodi, rhannu a chefnogi deiseb dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae hefyd yn ymwneud â hyrwyddo’r broses ddeisebu y byddwn yn annog pawb i ystyried ymgysylltu â hi. Fel y gwelwch o’r deisebau sydd wedi’u henwebu, mae ymgyrch angerddol yn gallu cael effaith wirioneddol ar fywydau trigolion Cymru.
“Rwy’n gadeirydd ar bwyllgor y bobl, gan ei fod yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac mae’r pwyllgor yn cael ei gyfarwyddo’n uniongyrchol gan y bobl drwy’r broses ddeisebau.
“Hoffwn ddiolch nid yn unig i’r rhai sydd wedi’u henwebu, ond i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r broses ddeisebau. Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu a chofiwch bleidleisio.”
chevron_right