Dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i'r gwaith o fynd i'r afael â dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yng Nghymru yn ôl Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod mwy a mwy o glinigwyr a sefydliadau bellach yn cydnabod y materion sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn (PDD), ond nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth i fynd i'r afael â hyn a phrin yw'r gwasanaethau sydd wedi'u targedu. Yn sgil hynny, mae cleifion yn cael eu cyfeirio'n aml at wasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac efallai nad dyna'r ffordd fwyaf addas o ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn deillio o ddeiseb a ddechreuwyd gan Stevie Lewis o Drefynwy, a gasglodd dros 200 o lofnodion. Dywedodd Ms Lewis wrth y Pwyllgor:
"Fy enw i yw Stevie Lewis ac yn 1996, pan oeddwn i'n 41 oed, cefais bresgripsiwn am gyffur gwrth-iselder SSRI (atalydd aildderbyn serotonin dethol) ar gyfer diffyg cwsg ysbeidiol a thyndra'r mislif.
"Yn 2002, ar ôl ceisio a methu sawl gwaith i stopio, sylweddolais fy mod yn ddibynnol yn gorfforol ar y cyffur. Am flynyddoedd, roeddwn i'n ceisio rhoi'r gorau i'r cyffur a phob tro y byddwn i'n gwneud hynny roedd y symptomau'n waeth ac yn waeth.
"Yn 2009, datblygais anhwylder symud oedd yn deillio o'r defnydd hirdymor o gyffur gwrth-iselder SSRI. Yn y pen draw, llwyddais i stopio yn 2013 ac rwyf wedi bod drwy broses hir a phoenus wrth roi'r gorau i'r cyffur."
Nododd Ms Lewis fod y meddyginiaethau a all achosi PDD yn cynnwys cyffuriau gwrth-iselder a thawelyddion fel bensodiasepinau, gyda chleifion yn cael anawsterau wrth geisio rhoi'r gorau i'r cyffuriau oherwydd y sgil-effeithiau.
Mynegwyd y pryderon a ganlyn i'r Pwyllgor hefyd:
- Mae lefel uchel o'r meddyginiaethau hyn yn cael eu rhagnodi ledled Cymru;
- Mae diffyg gwasanaethau amgen ar gael i bobl ag iselder, gan arwain at or-ddibyniaeth ar feddyginiaeth;
- Mae'r cyngor sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i feddyginiaethau presgripsiwn yn annigonol ac ni sylweddolir yr heriau sy'n gysylltiedig â rhoi'r gorau i'r meddyginiaethau hyn;
- Ni wneir digon o ddefnydd o weithwyr proffesiynol fel fferyllwyr a allai roi cyngor i gleifion.
Dywedodd Janet Finch-Saunders AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, "Cafodd y Pwyllgor amrywiaeth o dystiolaeth am y ffordd y gall ceisio rhoi'r gorau i ystod o feddyginiaethau presgripsiwn effeithio ar gleifion unigol.
"Gall cyffuriau gwrth-iselder a meddyginiaethau presgripsiwn eraill fod yn gymorth mawr i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae nifer o'r farn y gall fod yn anodd rhoi'r gorau i ddefnyddio rhai meddyginiaethau ac nad oes digon o gyngor ar gael i gleifion ar y dechrau.
"Yr hyn sy'n amlwg yw bod angen i ni wneud mwy i wella'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n cael y meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn.
"Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth bod gwasanaethau da mewn rhannau o Gymru, a theimlwn y dylid ceisio eu hefelychu yn fwy eang.
"Mae'r profiadau personol yr ydym wedi'u clywed yn ystod yr ymchwiliad hwn wedi peri gofid mawr ar brydiau a hoffem ddiolch i'r deisebydd am ei dewrder ai nerth wrth ddod â hyn i'n sylw."
Dywedodd Stevie Lewis, y deisebydd:
"Mae proses deisebau cyhoeddus Cymru wedi bod yn wirioneddol ddemocrataidd a grymusol. Gwrandawyd ar bawb a roddodd dystiolaeth i'm deiseb gyda sylw a pharch.
"Mae'r pwyllgor wedi cymryd fy honiad o ddifrif, sef bod angen inni allu meddu ar ddau safbwynt sy'n ymddangos fel eu bod yn gwrthddweud ei gilydd o ran cyffuriau gwrth-iselder, sef y gallant helpu pobl a hefyd y gallant niweidio pobl. Ac ar ôl i glaf gael ei niweidio gan unrhyw gyffur sy'n achosi dibyniaeth a symptomau rhoi'r gorau, nid oes gwasanaethau GIG cenedlaethol ar gael i arwain a chefnogi eu hadferiad. Edrychaf ymlaen at glywed Llywodraeth Cymru yn trafod y mater hwn yn y Senedd."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion, gan gynnwys:
- Dylid rhoi mwy o gydnabyddiaeth i ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ar lefel genedlaethol o fewn polisi a strategaeth, a dylid gwahaniaethu'n gliriach rhwng hynny â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
- Dylai Llywodraeth Cymru ailddatgan a phwysleisio na ddylid rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder fel mater o drefn ar gyfer iselder ysgafn mewn canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a dylai roi sicrwydd bod digon o ddewisiadau eraill o driniaethau, megis therapïau seicolegol, ar gael ledled Cymru.
- Dylid creu a hyrwyddo canllawiau ychwanegol mewn perthynas â lleihau'r defnydd o feddyginiaethau presgripsiwn yn raddol mewn modd diogel, ar gyfer cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Bellach, bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb ar gael yma.
I ddysgu rhagor am broses ddeisebau’r Cynulliad, neu i greu, llofnodi neu weld deisebau, gweler yr adran ar Ddeisebau ar dudalen y Cynulliad.