Economi gig a chontractau dim oriau yn achosi rhagor o dlodi mewn gwaith, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 23/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae arferion cyflogaeth modern fel yr economi gig a chontractau dim oriau yn golygu bod rhagor o bobl yng Nghymru yn cael trafferth i gael dau pen llinyn ynghyd, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Bu'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn edrych ar sut y dylai'r economi fod o fudd i bobl sydd ag incwm isel.

Mae'n dod i'r casgliad bod rhagor o weithio achlysurol wedi golygu bod llawer o bobl yn methu â dibynnu ar ffynhonnell reolaidd o incwm, a'u bod yn gorfod ymdrechu i ymdopi ag incwm isel.

Wrth gydnabod nad yw cyfraith cyflogaeth o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Pwyllgor wedi argymell na ddylai Gweinidogion roi cymorth, drwy gontractau, grantiau na benthyciadau i gwmnïau sy'n defnyddio contractau dim oriau. Dylai'r Llywodraeth hefyd ysgogi cwmnïau i dalu'r cyflog byw gwirfoddol, sef £8.75 yr awr, sy'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol, sef £7.83 yr awr.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn ailadrodd argymhelliad a welwyd mewn adroddiad blaenorol, i gael strategaeth gyffredinol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad a wnaed mewn ymchwiliad i'w chynllun Cymunedau yn Gyntaf, a honnai y byddai mynd i'r afael â thlodi yn cael ei brif ffrydio ar draws pob adran.

Mae'r dystiolaeth a glywyd gan y Pwyllgor wedi arwain yr Aelodau i bwysleisio bod angen strategaeth benodol.

Argymhelliad arall yw y dylid ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau sy'n cyflogi rhwng 50 a 249 o weithwyr sy'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi data ar unrhyw fylchau cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sydd â 250 neu ragor o weithwyr gyhoeddi data.

Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: "Rydym oll yn credu ym mhwysigrwydd gwaith, nid dim ond fel modd o ddarparu incwm, ond o ran manteision ehangach gwaith i unigolyn, ei deulu a'i gymuned.

"Fodd bynnag, mae newidiadau i arferion cyflogaeth a'r mathau o waith sydd ar gael yn cynyddu lefelau tlodi mewn gwaith. Mae hyn yn annerbyniol.

"Gan fod rhai o'r ysgogiadau polisi sy'n gallu helpu i fynd i'r afael â hyn y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn galw arni i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi yn greadigol, er mwyn sicrhau bod gan bobl sy'n byw yng Nghymru fynediad at waith o ansawdd da sy'n talu cyflog da."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 23 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gosod gofynion ar unrhyw gwmni sy'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid y Contract Economaidd neu fel arall. i leihau'r defnydd o gontractau dim oriau;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch eang a phellgyrhaeddol i annog y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru i dalu'r cyflog byw gwirfoddol; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gosod gofyniad ar bob cwmni, sydd â rhwng 50 a 249 o weithwyr, sy'n cael cefnogaeth fel rhan o'r Contract Economaidd, i gyhoeddi data ar ei fylchau cyflog rhwng y rhywiau.

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel (PDF, 1 MB)