Eisteddfodwyr o bob oed yn cael dweud eu dweud am y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 01/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Eisteddfodwyr o bob oed yn cael dweud eu dweud am y Cynulliad Cenedlaethol    

1 Mehefin 2012

Caiff plant a phobl ifanc sy’n ymweld â safle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eryri yr wythnos nesaf gyfle i ddysgu mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chwrdd â rhai o Aelodau’r Cynulliad ar y maes ym Mharc Glynllifon, ger Caernarfon.    

Bydd bws Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu llu o weithgareddau diddorol i blant ac oedolion o bob oed ar y thema ‘Democratiaeth ar Waith yng Nghymru’.   

Ar yr un thema, bydd ffotograffwyr ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth newydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r gystadleuaeth yn  gwahodd ffotograffwyr amatur a phroffesiynol i gyflwyno lluniau sy’n adlewyrchu Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn hanes datganoli yng Nghymru.  

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd ‘Wal yr Aelodau’ y tu allan i’r bws. Bydd ymwelwyr yn gallu chwilio am eu Haelodau Cynulliad ar fap mawr o Gymru ac yna gadael neges ar fater o’u dewis iddynt. Caiff y wybodaeth ei throsglwyddo i’r Aelodau ar ôl yr Eisteddfod.

Drwy’r wythnos bydd cyfle i bobl gael hwyl mewn cwisiau a gemau amrywiol wrth ddysgu mwy am y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwybod sut y gallant ddylanwadu ar ei waith. Yn ychwanegol, caiff pob ymwelydd â’r bws sy’n llenwi ffurflen adborth yn cael cyfle i ennill camera digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am daith haf y bws allgymorth ar gael yma

Mae rhagor o wybodaeth am gystadleuaeth ffotograffiaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yma