Nid yn unig y mae Cymru yn enwog am ei diwylliant, ei golygfeydd, ei chynnyrch a'i hartistiaid, ond hefyd mae ei henw da fel esiampl o ddemocratiaeth seneddol ar gynnydd ledled y byd.
Amlygir un maes yn arbennig fel enghraifft o arfer gorau, sef ei hagwedd at gydraddoldeb ac, yn benodol, rôl menywod mewn bywyd cyhoeddus.
Mae'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, wedi bod yn arwain ei hymgyrch #POWiPL - Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus ers yn gynnar yn y Cynulliad hwn i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r ymrwymiad hwnnw i gydraddoldeb wedi cael ei gydnabod ledled y byd ac, yn 2014, fe'i gwahoddwyd hi, ynghyd â Chawcws trawsbleidiol Menywod y Cynulliad, i rannu profiadau Cymru â Senedd Gwlad yr Iâ.
O flaen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, mae'r Fonesig Rosemary wedi cael gwahoddiad i ymweld â seneddau rhanbarthol yn Ne Affrica a Lesotho i gyfnewid syniadau a rhannu arfer gorau mewn perthynas â chynrychiolaeth menywod ac agenda cydraddoldeb blaengar yn fwy cyffredinol.
Bydd hi hefyd yn cwrdd â Llefaryddion y seneddau hynny yn dilyn ceisiadau am gymorth technegol parthed dulliau seneddol yn fwy cyffredinol.
"Braint ac anrhydedd yw cael cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y modd hwn," meddai'r Fonesig Rosemary.
"Mae'n bwysig inni hyrwyddo enw da cynyddol Cymru ledled y byd fel esiampl o ddemocratiaeth fodern a rhannu ein profiad a'n harfer da.
"Mae'r ffaith y gofynnwyd inni wneud hynny yn dangos bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei weld fel enghraifft o arfer da mewn sawl agwedd ar ddemocratiaeth seneddol.
"Mae De Affrica a Lesotho wedi ein gwahodd ni sawl gwaith yn y gorffennol i roi cymorth technegol i'w seneddau rhanbarthol. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r alwad honno.
"Ond nid dyna'i diwedd hi. Y llynedd, fe'm gwahoddwyd gan Lefarydd Cynulliad Gogledd Iwerddon i annerch cynhadledd menywod cenedlaethol ym Melffast, a gwahoddwyd rhai o'n Haelodau Cynulliad i Guernsey i annerch Cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad yr wythnos hon, ac yn ddiweddar mae Dirprwy Lefarydd Senedd Papwa Gini Newydd wedi gofyn am berthynas weithio agosach â'r Cynulliad yn dilyn gwaith y mae ein tîm TGCh wedi ei wneud gyda'r Senedd honno.
"Rwy'n arbennig o falch o'r gwaith a wnaed gennym trwy fy ymgyrch #POWiPL, a dylai'r ffaith bod ceisiadau niferus gan seneddau dramor sydd am ddysgu gennym fod yn destun balchder i bawb ohonom."
"Roeddwn yn falch iawn bod Cawcws trawsbleidiol Menywod y Cynulliad wedi penderfynu trefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth. Mae'r gweithgareddau hyn yn dangos ymrwymiad parhaus y Cynulliad i gydraddoldeb. Yn unol ag amcan strategol Comisiwn y Cynulliad i hyrwyddo Cymru, maent hefyd yn dangos bod ein statws fel deddfwrfa ryngwladol benodol, arloesol a blaengar wedi tyfu'n gryf yn ystod y pum mlynedd diwethaf."