Ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd

Cyhoeddwyd 09/05/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd  

Etholwyd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn Llywydd yng Nghyfarfod Llawn cyntaf y trydydd Cynulliad. Mae’r Arglwydd  Elis Thomas, AC dros Ddwyfor Meirionnydd, yn ymgymryd â’r rôl am y trydydd tro. Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas “Mae llywyddu dros y trydydd Cynulliad yn anrhydedd mawr i mi. Rwyf yn gwerthfawrogi yn arbennig y cyfle i geisio dwyn y cyfansoddiad ymlaen i’r sefyllfa lle byddwn yn deddfu ac yn craffu. Cafodd Rosemary Butler AC dros Orllewin Casnewydd ei hethol yn Ddirprwy Lywydd. Dywedodd Mrs Butler: “Mae’n anrhydedd mawr cael fy ethol i’r swydd bwysig hon ar un o’r adegau mwyaf tyngedfennol yn natblygiad y Cynulliad. Bydd rhaid i’r Cynulliad feddwl yn ofalus iawn am ei weithdrefnau a’i bwerau deddfu newydd yn ystod y misoedd nesaf, a byddaf yn helpu gymaint â phosib. “Dywed pobl Tsieina, ‘boed ichi fyw mewn amserau diddorol’, a chredaf y bydd hynny’n wir yma ym Mae Caerdydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Dafydd Elis-Thomas; mae gennyf barch mawr tuag ato. Yr wyf hefyd yn bwriadu cydweithio’n agos â holl Aelodau’r Cynulliad mewn ffordd deg a diduedd.”