Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd - datganiad

Cyhoeddwyd 13/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2017

Mae Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Phwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi’r datganiad ar y cyd a ganlyn gyda chynrychiolwyr o Senedd yr Alban, Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.

Dyma’r datganiad:

"Heddiw, gwnaethom ni, Gadeiryddion, Cynullwyr a chynrychiolwyr y Pwyllgorau sy'n craffu ar faterion sy'n ymwneud â'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, gyfarfod yn Nhŷ'r Arglwyddi ar gyfer cyfarfod cyntaf Fforwm Rhyngseneddol newydd ar y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, i drafod y broses ymadael honno, a'n craffu ar y cyd arni.

"Roedd swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol yn arsylwi.

“Mae'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddigynsail o gymhleth, ac er gwaethaf ein gwahanol farn a safbwyntiau gwleidyddol ar adael yr Undeb Ewropeaidd, fel seneddwyr yn ein deddfwrfeydd perthnasol, rydym yn wynebu heriau cyffredin: ceisio sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer y bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli; dwyn Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i gyfrif am eu rôl yn y broses; craffu ar effeithiau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig yn cynnwys y broses cydsyniad deddfwriaethol; deall goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran dyfodol y setliadau datganoli; a cheisio pennu natur perthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol.

"Mae heddiw wedi bod yn gyfle i ddysgu am y gwaith y mae pob un o'n Pwyllgorau a'n deddfwrfeydd yn ymgymryd ag ef; i rannu gwybodaeth a phrofiadau; ac i ystyried sut y gallwn ni gydweithio orau yn y misoedd i ddod wrth i'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd symud yn ei blaen.

"Gwnaethom gwrdd â Robin Walker AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Adran Ymadael yr UE, gan ddatgan yn glir wrtho mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod buddiannau'r DU gyfan, a phob un o'i rhannau a'i gwledydd cyfansoddol, yn cael eu hystyried yn llawn yn ystod y broses hon. 

"Felly mae'n hanfodol bod Gweinidogion DExEU ar gael i roi tystiolaeth i'r holl bwyllgorau seneddol sydd â'r gwaith o graffu ar y broses o ymadael yr Undeb Ewropeaidd a Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). 

"Mae llawer o ansicrwydd yn parhau ynghylch sut y bydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf.

"Felly, rydym yn bwriadu cyfarfod eto ddechrau 2018, ac yn rheolaidd ar ôl hynny, i gydweithio fel seneddwyr i adolygu cynnydd y trafodaethau a'r ddeddfwriaeth ddomestig gyfochrog."

 

Hilary Benn AS, Cadeirydd, Pwyllgor Ymadael yr UE Tŷ'r Cyffredin

Bruce Crawford MSP, Cynullydd, Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Arglwydd Jay o Ewelme, Cadeirydd Dros Dro, Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi

Joan McAlpine MSP, Cynullydd, Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol Senedd yr Alban

Yr Arglwydd McFall o Alcluith, Uwch Ddirprwy Lefarydd, Tŷ'r Arglwyddi

Andrew Murrison AS, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon Tŷ'r Cyffredin

David Rees AC, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Graham Simpson MSP, Cynullydd, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith Senedd yr Alban

Y Farwnes Taylor o Bolton, Cadeirydd, Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi

Yr Arglwydd Thomas o Gresford, Aelod, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi

Adam Tomkins MSP, Dirprwy Gynullydd, Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Yr Arglwydd Trefgarne, Cadeirydd, Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Andrew Murrison AS, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon Tŷ'r Cyffredin

David Rees AC, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Graham Simpson MSP, Cynullydd, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith Senedd yr Alban

Y Farwnes Taylor o Bolton, Cadeirydd, Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi

Yr Arglwydd Thomas o Gresford, Aelod, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi

Adam Tomkins MSP, Dirprwy Gynullydd, Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Yr Arglwydd Trefgarne, Cadeirydd, Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi