“Fframwaith cyfansoddiadol cryf i Gymru” – y Llywydd yn cynnig gwelliannau i Fil Cymru

Cyhoeddwyd 30/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2016

​Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi cyfres o welliannau arfaethedig i Fil Cymru.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu rhannu gyda Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelodau Seneddol Cymru cyn y ddadl gyntaf a gynhelir yn San Steffan ar y Bil ar 5 Gorffennaf.

Mae’r Llywydd yn credu y bydd ei chynigion yn rhoi “mwy o eglurder” a sicrhau “setliad cyfansoddiadol sy’n ymarferol, yn glir ac yn darparu sail gadarn ar gyfer dyfodol y Cynulliad.”

Yn ôl Elin Jones AC, y Llywydd, “yn dilyn y bleidlais i Adael yn Refferendwm yr UE yr wythnos diwethaf, mae'n hanfodol sicrhau bod gan Gymru fframwaith cyfansoddiadol clir a chryf.

“Cymerais y cam arloesol o gyhoeddi gwelliannau sy’n mynd i’r afael â phwyntiau o egwyddor oherwydd ei bod hi’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cael Bil Cymru sy’n iawn i Gymru. Er enghraifft, mae rhai gwelliannau yn mynd i’r afael â meysydd lle byddai’n fwy priodol i’r Cynulliad yn hytrach na deddfwriaeth y DG i benderfynu ar ei weithdrefnau ei hun, yn fy marn i.”

Rwy’n gobeithio y byddant yn cael eu hystyried yn gyfraniad cadarnhaol at broses y mae’n rhaid iddi sicrhau mwy o eglurder ynglŷn â llywodraethiant Cymru.

Mae’r Llywydd yn nodi sut y bwriedir i'r gwelliannau hyn adlewyrchu dwy egwyddor allweddol.

Mae'r cyntaf yn egwyddor gyfansoddiadol bwysig: dylai'r Cynulliad gydsynio i unrhyw newid a wneir i'w bwerau. Felly, ni ddylai'r trefniadau cydsyniad deddfwriaethol statudol rhwng y Cynulliad a'r Senedd fod yn gulach na chwmpas y confensiwn rhynglywodraethol sydd ar waith ar hyn o bryd. Yn yr un modd, dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad cyn datganoli'r pŵer i amrywio cyfradd y dreth incwm.

Yr ail egwyddor y mae'r gwelliannau'n rhoi sylw iddi yw y dylai'r Cynulliad, ar ôl 16 mlynedd o ddatganoli, gael y pŵer a'r hyblygrwydd i benderfynu ynghylch ei faterion mewnol ei hun. Ymdrinnir â'r egwyddor hon drwy welliannau i'r meysydd a ganlyn:

  • Mae'r Bil yn datganoli pŵer i'r Cynulliad mewn perthynas â'i drefniadu etholiadol, ac mae hynny i'w groesawu, ond mae problemau i'w datrys o hyd. Mae'r gofyniad i'r Cynulliad gynnal ei gyfarfod cyntaf ac ethol Llywydd o fewn saith diwrnod yn arwain at drafferthion ymarferol ac nid yw'n rhoi'r un hyblygrwydd i'r Cynulliad â'r Alban, lle y ceir gofyniad i ethol Llywydd o fewn 14 diwrnod. Yn yr un modd, rwyf am i'r pwerau i amrywio dyddiadau etholiadau cyffredinol y Cynulliad, ac i bennu dyddiadau etholiadau eithriadol y Cynulliad, gael eu trosglwyddo i'r Llywydd, yn unol â'r drefn yn yr Alban. Ar hyn o bryd, byddai'r Bil yn trosglwyddo'r cyntaf o'r pwerau hyn i Weinidogion Cymru, ac yn gadael yr ail yn nwylo'r Ysgrifennydd Gwladol.
  • Credaf, felly, y dylid diwygio'r Bil hefyd i gael gwared ar ragnodion newydd a diangen ynghylch y trefniadau gweithredu, a geir yn y darpariaethau sy'n gofyn am uwch-fwyafrif ac asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder.
  • Rwy'n falch o weld bod y Bil yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad reoli materion ariannol, materion atebolrwydd a materion archwilio ar gyfer cyrff yng Nghymru. Hoffwn i'r Bil gynnwys nifer fach o ddarpariaethau ychwanegol pwysig yn hyn o beth.

 

Mesur Cymru, Papur Briffio, Mehefin 2016 (PDF, 710KB)

Llythyr i AS 30 Mehefin 2016 (PDF, 314KB)