Fideos am ddemocratiaeth i ysbrydoli ac i hysbysu’r genhedlaeth iau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 18/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

18 Ionawr 2011

Fideos am ddemocratiaeth i ysbrydoli ac i hysbysu’r genhedlaeth iau yng Nghymru  

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynhyrchu cyfres o fideos gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth iau yng Nghymru ac i hysbysu pobl ifanc ynghylch eu dewisiadau eleni, sef blwyddyn ymgyrch Pleidleisiwch 2011. Mae’r fideos yn ymdrin a materion sy’n cynnwys pwy fydd yn gymwys i bleidleisio, sut i gofrestru er mwyn pleidleisio a’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar ddiwrnod yr etholiad. Maent yn rhan o ymgyrch ehangach y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu gwybodaeth ddiduedd am oblygiadau’r refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a goblygiadau etholiad y Cynulliad ar y cyhoedd yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae’r Cynulliad wedi cynhyrchu fideo mewn Iaith Arwyddion Prydain er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Yn ogystal a hyn, bydd fersiwn sain-yn-unig ar gael cyn bo hir. Cyhoeddir rhagor o fideos, gan gynnwys un sy’n egluro pwrpas y refferendwm a gynhelir ar 3 Mawrth, ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol dros yr wythnosau nesaf. Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Rydym wedi ymrwymo i ysbrydoli pobl Cymru i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd. “Mae’r fideos hyn wedi eu targedu’n benodol at bobl ifanc, gyda’r nod o hysbysu heb bregethu, a hynny mewn modd diduedd. “Maent yn rhan o’n hymgyrch ehangach i ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol a chyfryngau newydd mewn modd arloesol i gyrraedd pobl y byddem yn eu hepgor drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu mwy traddodiadol.” Gellir gwylio’r fideos ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, ar y dudalen ar gyfer ymgyrch Pleidleisiwch 2011, yn ogystal a thudalennau’r Cynulliad ar Facebook, Youtube a Vimeo. Pleidleisio 2011 - Mae pleidleisio’n rhwydd. Ni’n ei ‘neud e’ bob dydd. from Assembly Wales / Cynulliad Cymru on Vimeo.

Pleidleisio 2011 - Mae pleidleisio’n rhwydd. Ni’n ei ‘neud e’ bob dydd. from Assembly Wales / Cynulliad Cymru on Vimeo.

Gwybodaeth ychwanegol: Tudalen ymgyrch Pleidleisiwch 2011 ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru: http://www.vote2011.org Tudalen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Facebook: http://www.facebook.com/cynulliadcenedlaetholcymru Tudalen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Youtube: http://www.youtube.com/assemblycynulliad Tudalen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Vimeo: http://vimeo.com/assemblywales Cynhelir y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ar 3 Mawrth, a chynhelir etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai.