Gall prinder adnoddau cael effaith wirioneddol ar addysg disgyblion yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 19/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Gallai prinder adnoddau, gan gynnwys darpariaeth gwerslyfrau priodol, gael effaith wirioneddol ar addysg disgyblion ledled Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd disgyblion ac athrawon wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod y prinder adnoddau yn achosi i lefelau straen a phryder gynyddu, a hynny mewn cyfnod arholiadau sydd eisoes yn achosi straen.

Clywodd y Pwyllgor hefyd fod diffyg gwerslyfrau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg yn golygu bod rhai athrawon yn cyfieithu adnoddau eu hunain. Yn ôl Aelodau'r Cynulliad, roedd hyn yn cymryd amser gwerthfawr, gan ddyblu'r gwaith gan athrawon ac ysgolion eraill a gallai hyn esgor ar anghysondebau o ran y cyfieithiadau.

Mewn tystiolaeth, daeth i'r amlwg bod disgyblion ysgol yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd a bod rhaid sicrhau bod adnoddau ar gael mewn ystod o ffurfiau, gan gynnwys copi caled a fersiynau digidol, er mwyn galluogi'r disgyblion i ddefnyddio pa bynnag ffurf a oedd fwyaf addas iddynt hwy.

Mae'r Pwyllgor yn deall bod cyfyngiad ar y cyllid sydd ar gael i dalu am gost adnoddau, ac mae'n credu bod rhaid ailystyried yn sylfaenol felly pa adnoddau a ddylai fod ar gael i sicrhau dysgu effeithiol i'n holl ddisgyblion.

Mae pryder hefyd ynghylch y diffyg eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan ysgolion a disgyblion adnoddau digonol. Daeth Aelodau'r Cynulliad i'r casgliad y gallai diffyg eglurder arwain at fethu â darparu adnoddau digonol, ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar ddysgu disgyblion.

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, "Mae clywed gan ddisgyblion ac athrawon fod ganddynt brinder adnoddau, nad yw llyfrau weithiau'n cyrraedd tan ganol y flwyddyn ysgol, a bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mor anghyson yn destun pryder mawr".

"Testun pryder arall yw'r diffyg eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan ein disgyblion yr adnoddau dysgu sydd eu hangen arnynt yn y ffurf sydd fwyaf addas iddynt hwy.

"Mae angen inni gael gwybod pwy ddylai fod yn darparu gwerslyfrau, y caiff y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ei chynnig ar yr un pryd â'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg, a bod gwerslyfrau ac adnoddau athrawon yn rhan o'r pecyn craidd o adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 15 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi manylion i egluro pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau ar gael i bob disgybl, waeth pa ddull dysgu y mae'n well ganddynt ei ddefnyddio;

  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet ganfod i ba raddau y mae athrawon yn cyfieithu adnoddau eu hunain, a beth yw'r adnoddau hynny.  Yna dylid gwneud trefniadau i gyfieithu'r adnoddau hynny yn ganolog, a'u darparu i athrawon a disgyblion fel y bo'n briodol; a

  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet roi cynlluniau ar waith i sicrhau bod gwerslyfrau sy'n canolbwyntio ar gwricwlwm yn cael eu cynhyrchu yn y dyfodol a'u defnyddio fel y dull o addysgu, yn hytrach na'r model presennol o werslyfrau sy'n canolbwyntio ar gymwysterau.

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu i ddisgyblion (PDF, 903 KB)