Gallai deddfwriaeth sylfaenol fod o fudd i sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio yn ôl Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 12/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2015

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno y gallai deddfwriaeth fod o gymorth i sicrhau lefelau diogel staff nyrsio yng Nghymru. Serch hynny, mae wedi galw am nifer o welliannau i'r Bil er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol posibl.

Ym mis Rhagfyr 2013, bu Kirsty Williams AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol i gyflwyno'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). Diben y Bil hwnnw ydi sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal nyrsio diogel i gleifion bob amser. Mae'r Bil hefyd yn ymateb i gasgliadau nifer o adroddiadau uchel eu proffil ar berfformiad y GIG yng Nghymru a Lloegr. Roedd yr adroddiadau hynny’n dweud bod cael y lefelau priodol o staff nyrsio yn bwysig i ganlyniadau cleifion.

Er bod y Pwyllgor yn unfryd o blaid amcan y Bil, mae wedi gwneud 19 o argymhellion sydd i'w rhoi ar waith cyn i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Mae llawer o'r argymhellion yn canolbwyntio ar bryderon y Pwyllgor y gallai'r Bil achosi nifer o ganlyniadau anfwriadol.  Un o'r rheini ydi'r risg y gallai staff nyrsio gael eu symud o un maes ysbyty i faes arall er mwyn cynnal y lefelau staffio. Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu y gallai prinder nyrsys fod yn rhwystr sylweddol i allu gweithredu'r Bil yn llwyddiannus.

Yn ôl David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Cydnabyddir yn gyffredinol mor bwysig yw nyrsys o ran darparu gofal effeithiol o safon uchel i gleifion, ac roedd y Pwyllgor yn falch o'r cyfle i graffu ar y Bil.

"Yn sgil y dystiolaeth, daethom i'r casgliad y gallai deddfwriaeth sylfaenol ar lefelau diogel staff nyrsio fod yn fuddiol i Lywodraeth Cymru, gan ychwanegu at y dulliau a'r pwerau sydd gan y Gweinidog yn y maes hwn eisoes.

"Serch hynny, nid barn ddiamod yw honno: credwn fod angen gwneud nifer o welliannau cyn y gellir pasio'r ddeddfwriaeth hon, yn anad dim i liniaru rhai o'r canlyniadau anfwriadol, a sylweddol o bosibl, y gallai'r Bil eu creu fel y'i drafftiwyd."