Gallai Llywodraeth Cymru arbed miliynau drwy reoli asedau’n well, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 23/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gallai Llywodraeth Cymru arbed miliynau drwy reoli asedau’n well, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

23 Awst 2013

Gellid arbed miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus pe byddai Llywodraeth Cymru’n rheoli ei hystad yn fwy llym, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth y Pwyllgor Cyllid i’r casgliad fod gan adrannau’r Llywodraeth ddulliau gwahanol o reoli ei heiddo o amgylch Cymru a oedd yn annibynnol ar ei gilydd i raddau, yn hytrach na bod ganddynt un dull cydlynol.

Mae’r arfer hwn yn cyferbynnu’n amlwg â gofyniad Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn gorfod llunio strategaethau eglur sy’n nodi arbedion a chyfleoedd ar gyfer gweithredu arfer da.

Mae’r Pwyllgor am weld dull unedig a chydlynol yn cael ei fabwysiadu ar draws y sefydliad cyfan.

Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi adroddiad blynyddol, ‘Cyflwr yr Ystad’, sy’n cynnwys gwybodaeth am berfformiad ei swyddfeydd gweinyddol. Mae ganddi 41 o’r swyddfeydd hyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor am weld mwy o fanylion yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys gwybodaeth am asedau eraill fel ystadau diwydiannol a pharciau busnes.

Hefyd, canfu’r Pwyllgor ddiffyg gwybodaeth gyson ar draws sefydliadau gwahanol, gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub. Roedd hyn yn ei wneud yn anodd monitro perfformiad yn gywir.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Mae amodau economaidd newidiol wedi arwain at ddiddordeb newydd ym maes rheoli asedau, maes na fu llawer o sôn amdano hyd yma.

“Yn syml, mae rheoli asedau’n effeithlon yn arbed arian. Po leiaf sydd gennych i’w wario ar lety, po fwyaf sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Mae llawer o enghreifftiau o waith da yn cael ei wneud yn Llywodraeth Cymru ac o amgylch Cymru, ond gellid gwneud mwy fyth i ddatgloi adnoddau gwerthfawr.

“O fewn Llywodraeth Cymru, mae asedau wedi eu his-rannu’n ddryslyd, gyda maenoriaethau gweinidogol yn cael blaenoriaeth dros gyfanrwydd integredig.

“Mae’r Pwyllgor o’r farn y byddai newid sylweddol yn y ffordd y caiff asedau eu rheoli – yn enwedig drwy well cydweithredu ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, ac yn y sector cyhoeddus yn gyffredinol yng Nghymru – yn datgloi adnoddau gwerthfawr a fyddai’n diogelu gwasanaethau rheng flaen, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ein canfyddiadau.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn llunio Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer ei hystad weinyddol yn ei chyfanrwydd, (neu ei bod yn diwygio cynnwys yr Adroddiad ar Gyflwr yr Ystad) gyda thargedau priodol, ac yn adrodd yn rheolaidd ar berfformiad yn erbyn y targedau hynny;

  • bod Llywodraeth Cymru yn llunio Strategaeth Rheoli Asedau drosfwaol sy’n cynnwys POB ased sydd yn ei meddiant, nid ei hystad weinyddol yn unig; a

  • bod Llywodraeth Cymru’n adrodd yn ôl yn flynyddol ar sut y mae’n gweithio gydag uwch arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus i amlygu’r pwysigrwydd a’r manteision a all ddeillio wrth reoli asedau yn gadarn, a chadw cofnodion a chynlluniau cyfredol.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i reoli asedau yma.