Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion y Senedd Ieuenctid

Cyhoeddwyd 21/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu argymhellion pobl ifanc Cymru, yn ôl Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru (ASIC). 

Wrth rannu’r Siambr ag aelodau Senedd Cymru, gofynnodd ASICau eu cwestiynau i weinidogion Llywodraeth Cymru wrth i’r ddwy senedd gwrdd ar y cyd am yr eildro erioed.   

Manteisiodd yr aelodau ifanc ar y cyfle i holi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS ynghylch y tri phwnc sy’n flaenoriaeth i’r Senedd Ieuenctid sef: Addysg a’r cwricwlwm ysgol, yr hinsawdd a’r amgylchedd, ac iechyd meddwl a lles. 

Y sesiwn ar y cyd heddiw oedd y cyfle cyntaf ers y pandemig covid-19, a'r ail achlysur erioed, i holl aelodau’r ddwy Senedd eistedd gyda’i gilydd yn y Siambr. 

Ollie Mallin, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Dyma ail dymor Ollie Mallin yn eistedd fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, yn cynrychioli sefydliad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Meddai: “Yn ystod y cyfnod rhwng y sesiwn ar y cyd diwethaf a’r cyfarfod heddiw, mae Cymru wedi newid yn aruthrol. Rydyn ni wedi wynebu pandemig byd-eang, wedi gweld sawl Prif Weinidogion, ac nawr yn byw mewn argyfwng costau byw. Ond mae Cymru a’i phobl yn gryfach ac yn fwy unedig nag erioed fel cenedl. 

“Ar ran y Senedd Ieuenctid Cymru gyfan, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a gweddill y Senedd yn derbyn ein hargymhellion yn llawn bwriad o weithredu arnynt. Rwy’n credu mai’r Senedd Ieuenctid yw un o’r ffynonellau gorau - os nad y gorau - sydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn dysgu beth mae pobl ifanc Cymru ei eisiau, beth mae cenhedlaeth nesaf Cymru ei eisiau. 

“Felly, gofynnwn i chi, os gwelwch yn dda, dderbyn ein hargymhellion, i ystyried pob un ohonynt a gweithredu arnynt i gyd.” 

Siaradodd 10 o’r aelodau yn ystod y sesiwn, gan ofyn cwestiynau ar bynciau’n amrywio o weithredu’r cwricwlwm ysgol newydd yn enwedig ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu, y daith i sero net a sicrhau mynediad haws at gymorth iechyd meddwl. 

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, yn ystod cyfarfod ar y cyd a Senedd Ieuenctid Cymru

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, gydnabod a chanmol eu cyflawniadau hyd yn hyn. Meddai: “Yr wythnos diwethaf, mi wnes i gyfarfod â rhywun a oedd wedi bod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid gyntaf yma yng Nghymru. Dywedodd wrthyf fod y profiad wedi newid ei fywyd, ac rwy’n gobeithio y bydd yr amser a’r ymrwymiad yr ydych chi yn ei roi yn cael ei wobrwyo mewn modd tebyg. 

“Mae’r gwaith rydych chi wedi’i wneud eisoes yn adlewyrchu prif bryderon pobl ifanc yng Nghymru heddiw. Diolch am yr adroddiadau ar addysg a’r cwricwlwm. Bydd yr argymhellion yn eich gwaith ar iechyd meddwl a llesiant yn ddylanwadol iawn ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd yr arolwg presennol, sy’n ymchwilio i’r hinsawdd a’r amgylchedd, yn sicrhau bod llais heriol pobl ifanc ar bynciau mwyaf difrifol y dydd yn cael ei glywed yn glir ac yn effeithiol yng ngwaith y Senedd.” 

Ail gyfarfod ar y cyd rhwng Senedd Ieuenctid Cymru a Senedd Cymru

Dywedodd Llywydd y Senedd, y Gwir Anrh. Elin Jones AS fod y sesiwn yn brofiad calonogol: “Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd fel Aelodau o’r Senedd wedi gweld y sesiwn gyda’n Senedd Ieuenctid yn brofiad calonogol - yn heriol i Lywodraeth Cymru a’r Gweinidogion, ac yn heriol i ni fel Aelodau hefyd i feddwl sut y gallwn ni adlewyrchu blaenoriaethau ein Senedd Ieuenctid yn y gwaith rydym yn ei wneud.” 

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru: etholir 40 i gynrychioli eu hetholaethau ac 20 arall i gynrychioli sefydliadau partner.