Gellir bod yn fwy agored am gludo gwastraff heb fod angen cyfraith newydd, yn ôl un o Bwyllgorau’r Cynulliad
30 Tachwedd 2009
Mae Aelodau Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn credu bod angen gwneud mwy i sicrhau bod cynghorau’n fwy agored ynghylch ble y byddant yn cludo’u gwastraff i’w ailgylchu.
Ond nid yw’r Aelodau’n credu bod angen cyfraith newydd yn hyn o beth, a dyna pam nad ydynt yn cefnogi’r Mesur Arfaethedig Cludo Gwastraff i’w Adfer (Ymgysylltiad Cymunedau â’r Trefniadau) (Cymru).
Cyflwynwyd y Mesur gan yr Aelod mainc gefn, Nerys Evans AC, sydd am weld cynghorau’n bod yn fwy agored wrth ymdrin â deunydd i’w ailgylchu. Yn benodol, byddai’n golygu bod cynghorau’n gorfod cyhoeddi a yw’r gwastraff yn cael ei brosesu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd neu Ardal Masnach Rydd Ewrop.
“Rydym yn cydnabod nad yw’r trefniadau presennol yn ddiogon agored, yn enwedig pan fydd cynghorau’n allforio deunydd y gellir ei ailgylchu er mwyn ei brosesu,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Rosemary Butler AC.
“Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod y Mesur arfaethedig yn angenrheidiol er mwyn gwella’r system.
“At hynny, rydym yn cwestiynau ai’r Mesur yw’r ffordd orau o sicrhau bod cymunedau lleol yn rhan o’r agenda ailgylchu ehangach.
“Ac rydym yn pryderu y byddai’r Mesur arfaethedig yn rhoi baich ychwanegol a diangen ar awdurdodau lleol, ac ni fyddai’n ddefnydd effeithiol nac effeithlon o adnoddau.
“Am y rhesymau hyn, nid oes modd i ni gefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig.”
Yn ystod ei ymchwiliad, dywedodd y Gweinidog dros gynaliadwyedd wrth y Pwyllgor y gellir cyflawni amcanion y Mesur drwy annog cynghorau i gyhoeddi gwybodaeth am wastraff a gaiff ei allforio.
Ychwanegodd pe na bai hyn yn llwyddiannus, gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio’u pwerau presennol i orfodi awdurdodau lleol i wneud hynny.
Teimlai’r Aelodau hefyd y gallai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff, a allai gael Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2010, arwain at Fesur ehangach a fyddai’n gallu ymdrin â gwastraff diwydiannol a masnachol yn ogystal â gwastraff bwrdeistrefol.