Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf yn cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf yn cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad

Mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft cyntaf wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad.

Bydd hysbysiad ysgrifenedig bod y Gorchymyn drafft wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad yn awr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedyn naill ai’n gosod y Gorchymyn drafft gerbron y naill Dy’r Senedd a’r llall, neu’n rhoi rhybudd ysgrifenedig i Brif Weinidog Cymru yn dweud ei fod yn gwrthod gwneud hynny a’r rhesymau pam.

Os yw’r Gorchymyn drafft yn cael ei osod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig bydd trafodaeth arno gan ddau Dy’r Senedd.   Os caiff ei gymeradwyo gan y ddau Dy bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei argymell i gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

Unwaith y bo’n cael ei gymeradwyo, byddai cymhwysedd deddfwriaethol pellach yn cael ei roi i’r Cynulliad ym Maes 5 (Addysg a Hyfforddiant) o fewn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.    Byddai’r Cynulliad wedyn â’r grym i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes addysg a hyfforddiant ar gyfer personau gydag anghenion dysgu ychwanegol.