Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch yr iaith Gymraeg - yr ymgynghoriad mwyaf eang i gael ei gynnal gan Bwyllgor Deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 31/03/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch yr iaith Gymraeg - yr ymgynghoriad mwyaf eang i gael ei gynnal gan Bwyllgor Deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael mwy na 300 o ymatebion i’w ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ynghylch yr iaith Gymraeg.

Dyma’r ymgynghoriad ehangaf i gael ei gynnal gan un o bwyllgorau deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae wedi cael y nifer mwyaf erioed o ymatebion.  

O dan y Gorchymyn arfaethedig, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael y pwer i wneud deddfau newydd ar yr iaith Gymraeg.

“Ein bwriad oedd canfod barn cymaint o unigolion a sefydliadau â phosibl,”  meddai Mark Isherwood AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5.

“Wedi’r cwbl, mae’r iaith Gymraeg yn fater allweddol sydd o bwys i ni i gyd, pa un ai a ydym yn siarad Cymraeg ai peidio.

“Un o themâu allweddol y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ddegfed flwyddyn yw ehangu cyfranogiad yn y broses wleidyddol.

“Mae annog pobl i gymryd rhan yng ngwaith y pwyllgorau deddfwriaethol yn elfen bwysig o hynny.”

Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio mewn digwyddiad ar y grisiau sydd yn arwain i mewn i’r Senedd fis diwethaf.

Cafwyd 136 o ymatebion gan sefydliadau amrywiol, gan gynnwys 67 cangen unigol o Ferched y Wawr.

Cafwyd hefyd 279 o ymatebion gan unigolion – daeth 210 ohonynt drwy ffurflen ymateb ar-lein a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith.

Bydd Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn dychwelyd i’r Pwyllgor i roi tystiolaeth ar 28 Ebrill. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig y mae wedi’i chael a’r dystiolaeth a roddir i’r Pwyllgor gan dystion dros yr wythnosau nesaf.

Rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno ei adroddiad ar y Gorchymyn arfaethedig erbyn 5 Mehefin 2009.

Gallwch weld yr ymatebion hyn drwy fynd i wefan y Pwyllgor: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-legislative-competence-orders/bus-legislation-lco-2009-no10.htm