Mae llawer gormod o blant a phobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder troseddol.
Dyna’r neges a gawn yn yr adroddiad ‘60% – Rhoi Llais iddynt’, a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd.
Canfu’r adroddiad bod y cymorth y mae pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ei gael i lywio’r system gyfiawnder yn annigonol yn y rhan fwyaf o Gymru.
Mae’r anghenion dan sylw yn cynnwys amrywiaeth eang o heriau, gan gynnwys nam ar y clyw, dyslecsia neu anawsterau cyfathrebu cymdeithasol o ganlyniad i awtistiaeth.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae’r ormodaeth hon o bobl ifanc sydd â heriau cyfathrebu yn cael eu llusgo i’r system cyfiawnder troseddol yn peri pryder mawr.
“Cymharwch y 60 y cant hwn â chanran o ddim ond 10 y cant o bobl ifanc ag anghenion o’r fath yn y boblogaeth gyffredinol ac mae'n amlwg bod gennym fater difrifol i fynd i'r afael ag ef. Nod yr adroddiad hwn yw rhoi llais i'r bobl ifanc hyn.
“Rydym am weld llawer rhagor o ffocws ar anghenion cyfathrebu plant o’u genedigaeth, er mwyn atal niferoedd mor fawr o bobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu rhag dod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf. Yn ail, mae angen inni sicrhau bod pawb sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol yn ymwybodol o’r duedd hon, fel bod pobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i lywio eu ffordd drwy’r system cyfiawnder ieuenctid. Fel arall, tanseilir unrhyw honiad o ran mynediad teg at gyfiawnder.
“Mae hynny’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda therapyddion lleferydd ac iaith, wella ymwybyddiaeth gwasanaethau rheng flaen, a’r modd y mae gwasanaethau rheng flaen yn adnabod anghenion lleferydd ac iaith yn gynnar, yn enwedig ysgolion. Rhaid i staff a gwasanaethau feddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau i allu ymateb i’r unigolion sy’n amlygu’r anghenion cyfathrebu hyn gyda’r cymorth priodol.”
Canfu ymchwiliad undydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol bod diffyg sefydliadau yng Nghymru sy’n eiriolwyr ar ran pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae sefydliadau eraill yn cwmpasu’r DU gyfan ac nid oes ganddynt ffocws penodol ar Gymru.
Canfu’r ymchwiliad bod cefnogaeth glir ar gyfer lleoli therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob tîm troseddau ieuenctid ledled Cymru, a chlywodd am arfer arweiniol y sector yn Nhîm Troseddau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot. Yn yr adroddiad gofynnir i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer lleoli therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob Tîm Troseddau Ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau rhanddeiliaid i greu cynllun erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac yn rhoi blaenoriaeth i wella arferion recriwtio a chadw therapyddion lleferydd ac iaith.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma