Goruchaf Lys y DU yn Cyfarfod am y Tro Cyntaf yng Nghymru yn Nhŷ Hywel yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 22/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/07/2019

Bydd Goruchaf Lys y DU yn bresennol yn y Cynulliad Cenedlaethol drwy gydol yr wythnos hon ar gyfer ei gyfarfod cyntaf yng Nghymru.

Bydd y Fonesig Hale, sef Llywydd y Goruchaf Lys, yn llywyddu gyda'r Dirprwy Lywydd a'r Ustusiaid dros bedwar diwrnod o wrandawiadau a gynhelir yn Nhŷ Hywel rhwng 22 Gorffennaf a 25 Gorffennaf. Bydd rhwydd hynt i'r cyhoedd wrando ar y gwrandawiadau fel y gallant weld y llys uchaf yn y DU wrth ei waith.

Ar ôl iddynt gyrraedd Caerdydd ddydd Llun 22 Gorffennaf, bydd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, a'r Cwnsler Cyffredinol yn croesawu'r Goruchaf Lys mewn derbyniad arbennig yn y Senedd.

Fel rhan o'r digwyddiad agoriadol, wedi ei drefnu gan Cyfraith Cymru ar y cyd â Chymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, bydd Dr Sara Elin Roberts yn traddodi darlith ar “Hywel Dda a’r Cyfreithiau Cymreig”. Bydd y Goruchaf Lys hefyd yn cael cyfle i weld atgynhyrchiad o Lawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda, sy'n dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif sydd fel arfer yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd aelodau'r cyhoedd hefyd yn gallu gweld y ffacsimili yn y Cynulliad Cenedlaethol drwy'r wythnos.

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:

“Mae'r wythnos hon yn un wirioneddol hanesyddol, wrth i ni gynnal ymweliad cyntaf y Goruchaf Lys â Chymru. Y Goruchaf Lys yw'r llys barn uchaf yn y Deyrnas Unedig ac mae'n cynnal apeliadau ar bwyntiau cyfreithiol o'r pwysigrwydd cyhoeddus mwyaf. Mae hefyd yn penderfynu ar faterion datganoli, ac yn arbennig i ni, achosion ynghylch a yw Deddfau'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol.”

Y Goruchaf Lys yw’r llys apêl terfynol yn y DU ar gyfer achosion sifil, ac ar gyfer achosion troseddol o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’n clywed achosion o’r pwysigrwydd cyhoeddus neu gyfansoddiadol mwyaf sy’n effeithio ar y boblogaeth gyfan.

Eisteddodd y Goruchaf Lys yn flaenorol yn yr Alban yn 2017 ac yng Ngogledd Iwerddon yn 2018.