Gradd-brentisiaethau: Datgloi potensial i bawb

Cyhoeddwyd 02/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/12/2019

Mae ymchwiliad i raglen beilot gradd-brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi ei lansio gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae gradd-brentisiaethau yn cyfuno dysgu yn y gweithle fel rhan o brentisiaeth draddodiadol â gradd. Ar hyn o bryd, dim ond mewn dau faes y mae’r rhain ar gael, sef digidol, a pheirianneg a gweithgynhyrchu uwch. 

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai gradd-brentisiaethau 'yn dda ar gyfer amrywio’r llwybr at broffesiwn ac yn llesol i economi Cymru’ gan nodi’r ddau amcan o ‘ symudedd cymdeithasol ac ehangu cyfranogiad fel amcanion. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn pryderu efallai na fydd y cynllun peilot gwerth £20 miliwn, yn gweithio cystal ag y gallai o ran datgloi potensial i bawb.

Mae ffigurau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn dangos mai dynion yw tua 80% o’r 155 o brentisiaid yn y garfan gyntaf, ac nid oes braidd neb ohonynt wedi datgan eu bod nhw’n anabl. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddysgu mwy am gefndiroedd prentisiaid a sut y bydd y rhaglen hon yn helpu pobl o amrywiaeth o gefndiroedd i sylweddoli gwerth gradd-brentisiaeth. 

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor hefyd yn canolbwyntio ar y canlynol:
  • Cost-effeithiolrwydd gradd-brentisiaethau a’r rhesymeg sy’n sail iddynt
  • Sut y cafodd y darparwyr eu dewis i ddarparu gradd-brentisiaethau
  • I ba raddau y mae dull Llywodraeth Cymru ar gyfer eu cyflwyno yn gweithio 
  • Gwerth gradd-brentisiaethau a'u cyfeiriad yn y dyfodol 
  • Yn ystod ei ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn ymgysylltu â chyflogwyr, darparwyr a phrentisiaid gradd eu hunain.
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:

“Mae'r rhaglen gradd-brentisiaeth yn beilot cyffrous ond mae'n bwysig iddi ddechrau yn dda a chynnig cyfleoedd i bawb. Mae’n siomedig gweld mai 20 %yn unig yw canran y menywod yn y garfan gyntaf. Rydym yn awyddus i wybod pam a deall mwy am fynediad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i'r rhaglen.

“Rydym yn cydnabod potensial gradd-brentisiaethau i newid bywydau, uwchsgilio gweithluoedd a gwella ffyniant ledled Cymru. Mae'n hanfodol bod y swm sylweddol o £20 miliwn a fuddsoddwyd ynddynt yn cael effaith wirioneddol, yn enwedig ar adeg pan fo galw mawr am y rhaglen brentisiaethau ehangach. 

“Dyna pam mae ein Pwyllgor yn lansio’r ymchwiliad heddiw, i ddeall beth sy’n digwydd o ran gradd-brentisiaethau ac a ydynt ar y trywydd iawn i gyflawni eu potensial i Gymru.”