Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia i gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Menter a Dysgu

Cyhoeddwyd 06/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia i gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Menter a Dysgu           

Bydd y Pwyllgor Menter a Dysgu yn derbyn tystiolaeth ar Gefnogaeth i Ddyslecsia yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher, Tachwedd 7fed. Bydd yr aelodau’n cael cyflwyniadau gan yr Athro David Reynolds o Brifysgol            Plymouth, Yr Athro Angela Fawcett, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Plant, Prifysgol Abertawe ac Ann Cooke o’r Uned Ddyslecsia, Prifysgol Bangor. Mae’r sesiwn hwn yn dilyn ymweliadau casglu tystiolaeth ac ymweliadau canfod ffeithiau blaenorol â nifer o sefydliadau dyslecsia a chanolfannau triniaeth gan grwp rapporteur sy’n cynnwys pedwar o aelodau’r pwyllgor, ac mae’n digwydd yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Dyslecsia. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd rhwng 9.00am – 11.00am ddydd Mercher, Tachwedd 7fed. Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Dysgu