Grym Comisiynydd Safonau’r Cynulliad i gael ei gryfhau ar ôl i Aelodau’r Cynulliad gefnogi cyfraith newydd.

Cyhoeddwyd 14/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Grym Comisiynydd Safonau’r Cynulliad i gael ei gryfhau ar ôl i Aelodau’r Cynulliad gefnogi cyfraith newydd.

14 Hydref 2009

Cafodd cyfraith newydd gan y Cynulliad a fydd yn cryfhau swyddogaeth Comisiynydd Safonau’r Cynulliad ei chefnogi brynhawn heddiw (14 Hydref) gan Aelodau’r Cynulliad.

Cyflwynwyd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Roedd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o’r farn ei bod yn bwysig bod gan y Comisiynydd Safonau bwerau cyfreithiol cryf er mwyn gallu ymchwilio i unrhyw gwynion sy’n ymwneud â chamymddygiad, ac annog safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus fel Aelodau’r Cynulliad.”

“Mae’r holl bwerau a gaiff eu cynnwys yn y Mesur hwn yn bwysig iawn o ran sicrhau bod gan bobl Cymru hyder yn eu cynrychiolwyr etholedig. Fel pwyllgor, rydym yn falch bod Aelodau’r Cynulliad wedi cefnogi’r cynigion hyn. Bydd yn golygu bod y Comisiynydd Safonau yn hollol annibynnol ac y bydd gan y cyhoedd ffydd ynddo.”

Bydd y Mesur Cynulliad yn sicrhau bod gan y Comisiynydd Safonau:

  • y gallu i hybu safonau uchel bywyd cyhoeddus Aelodau’r Cynulliad,

  • y pwerau a fydd yn ei alluogi i ymchwilio’n drylwyr i gwynion

  • y gallu i weithredu’n annibynnol ar y Cynulliad, a’r gallu, felly, i weithredu’n hollol wrthrychol.

“Mae’n rhaid i dryloywder a bod yn agored fod ar frig yr agenda mewn hinsawdd lle mae’r cyhoedd yn gofyn cwestiynau difrifol am arian cyhoeddus,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad.

“Un o’r elfennau allweddol yw sicrhau bod y cyhoedd yn credu bod swydd annibynnol yn bodoli, gyda’r pwerau cryfaf posibl, er mwyn sicrhau bod yr holl aelodau’n gweithredu’n briodol.”