Gwahardd taro plant yw’r pwnc cyntaf i gael ei drafod wrth i’r Cynulliad dreialu system newydd ar gyfer dadleuon Aelodau

Cyhoeddwyd 17/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwahardd taro plant yw’r pwnc cyntaf i gael ei drafod wrth i’r Cynulliad dreialu system newydd ar gyfer dadleuon Aelodau

20 Hydref 2011

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid cynnig sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd taro plant.

17 Hydref 2011

Bydd gweithdrefn newydd i alluogi Aelodau’r Cynulliad i gyflwyno cynigion ar gyfer dadleuon yn cael ei dreialu o 19 Hydref ymlaen.

Nod y system yw gwneud busnes y Cynulliad yn fwy agored i faterion sydd o bwys i Aelodau a chymunedau ledled Cymru.

Y cynnig cyntaf i gael ei ddewis yw’r un sy’n galw am wahardd smacio plant. Cafodd y cynnig ei gyflwyno ar y cyd gan Christine Chapman AC, Julie Morgan AC, Lindsay Whittle AC a Kirsty Williams AC, a chynhelir y ddadl ar 19 Hydref.

“Bellach, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu ehangach ac rydym eisoes wedi newid y ffordd yr ydym yn gweithio mewn pwyllgorau, fel bod y broses ddeddfu a chraffu yn fwy ymatebol i anghenion pobl Cymru,” meddai Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.

“Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd ei gwneud yn haws i Aelodau unigol—ac eithrio aelodau o’r Llywodraeth—drafod y materion sydd o bwys i’w hetholwyr ac i Gymru yn ehangach yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn.

“Dyna pam rwy’n annog pob Aelod i fanteisio ar benderfyniad y Pwyllgor Busnes i neilltuo amser yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer dadleuon Aelodau unigol.

“Bydd y rhain yn wahanol i broses y Ddadl Fer, gan y bydd Aelodau yn cyflwyno cynnig y bydd yr holl Aelodau yn pleidleisio arno.

“Bydd hyn yn rhoi cyfle i Aelodau gyflwyno cynigion sydd wedi denu cefnogaeth gan Aelodau o bleidiau eraill.

“Bydd hyn yn caniatáu rhagor o gyfleoedd rheolaidd i Aelodau drafod materion sy’n cael eu codi gan etholwyr unigol a chyrff anllywodraethol ac adlewyrchu eu safbwyntiau yn well.”

Bydd y system yn gweithio fel a ganlyn:

  • Gall Aelodau unigol gyflwyno cynnig, ac mae’n rhaid iddo gael ei gefnogi gan o leiaf ddau Aelod arall o ddwy blaid wleidyddol wahanol.

  • Gall Aelodau gyflwyno cynnig ar y cyd, fel yn achos y cynnig a ddewiswyd ar gyfer y ddadl gyntaf, neu gallant geisio cefnogaeth Aelodau eraill ar ôl iddynt gyflwyno’r cynnig;

  • Bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried cynigion sy’n bodloni’r gofynion hyn ac yna bydd yn rhoi gwybod i’r Aelod bod y cynnig wedi’i ddewis a nodi’r dyddiad pryd fydd y ddadl yn cael ei chynnal.