Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Gwahodd Undeb Rygbi Cymru a Llywodraeth Cymru ger bron Pwyllgor y Senedd

Cyhoeddwyd 27/01/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Cadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru, Ieuan Evans, a Gweinidog Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS, yn cael eu gwahodd i gwrdd â Phwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

O ystyried difrifoldeb yr honiadau a wnaed am yr Undeb yr wythnos hon, mae'r Pwyllgor yn newid ei amserlen i neilltuo'r cyfarfod nesaf ar 2 Chwefror ar gyfer trafod y mater. Mae’r cyfarfod yn dechrau am 9.30 ar fore Iau 2 Chwefror, ac yn cael ei ddarlledu’n fyw ar senedd.tv

Bwriad y cyfarfod yw trafod a deall yn well y cyhuddiadau a ddaeth i'r amlwg yn rhaglen BBC Cymru Wales yr wythnos hon ac archwilio'r tasglu a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru mewn ymateb.

Mae’r Pwyllgor hefyd am ddeall gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn y mater hwn. Mae Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, wedi ei gwahodd i roi tystiolaeth ynghylch beth mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ei wneud.

Mae’r Pwyllgor yn glir fodd bynnag nad ymchwiliad yw’r cyfarfod ar ddydd Iau 2 Chwefror, ond yn hytrach cyfle i archwilio’r materion sydd wedi codi a thrafod sut maen nhw’n gweithredu eisoes. 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried pa gamau pellach i’w cymryd yn dilyn trafodaethau’r wythnos nesaf.