Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Dywedodd Mr Ramsay:
"Mae gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) rôl bwysig i'w chwarae o ran sicrhau gwell bargen i gyrff cyhoeddus am eu nwyddau a'u gwasanaethau ac wrth gyflawni amcanion polisi caffael ehangach Llywodraeth Cymru.
"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn glir bod yr NPS ymhell o gyrraedd y disgwyliadau, sydd erbyn hyn yn ymddangos yn or-optimistaidd, ynghylch faint o wariant cyhoeddus y byddai'n gallu dylanwadu arno, o leiaf yn ystod ei flynyddoedd cynnar.
"Mae'r adroddiad yn codi rhai cwestiynau ehangach ynghylch ymrwymiad cyrff cyhoeddus i brynu ar y cyd ac am y cydbwysedd rhwng blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, a rheolaeth gyffredinol yr NPS.
"Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad hwn am yr NPS ochr yn ochr ag adroddiad ehangach yr Archwilydd Cyffredinol ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf."