Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 12/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

​Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, Nick Ramsay AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

Dywedodd Mr Ramsay:

"Mae gan wasanaethau y tu allan i oriau rôl bwysig i'w chwarae o ran darparu cymorth brys i gleifion, ar adegau pan fydd meddygfeydd ar gau.

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn egluro bod y gwasanaethau hyn dan bwysau ac nad ydynt yn bodloni'r safonau cenedlaethol. Mae bygythiadau hefyd i gynaliadwyedd y gwasanaethau hyn oherwydd problemau staffio a materion yn ymwneud â morâl staff.

"Mae'r argymhellion yn darparu sail gadarn ar gyfer cryfhau gwasanaethau y tu allan i oriau ac mae'r Pwyllgor yn edrych ymlaen at ystyried yr adroddiad hwn yn fanwl."

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.