Gwir Gofnod o Gyfnod: Prosiect newydd i ddiogelu cofnodion a lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd 08/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/08/2019

Mae Archif Menywod Cymru a Chomisiwn y Cynulliad heddiw yn cyhoeddi eu bod yn cydweithio ar brosiect newydd o’r enw Gwir Gofnod o Gyfnod i ddiogelu cofnodion a lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru.  Derbyniodd yr Archif grant gan Dreftadaeth Loteri Cymru a’r Comisiwn i gyllido’r gwaith.   

Mae 2019-20 yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu yn 1999. O’r cychwyn cyntaf mae’r Cynulliad wedi rhagori o safbwynt cyfran y menywod ymysg ei Aelodau o’i gymharu â Chynulliadau a Seneddau deddfwriaethol eraill ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2003, enillodd y statws o fod y ddeddfwrfa gyntaf i gyrraedd cydbwysedd 50:50 o ran rhyw. 

Bydd Gwir Gofnod o Gyfnod yn casglu profiadau’r Aelodau Cynulliad benywaidd sydd wedi gwasanaethu Cymru yn y sefydliad ers 1999. Mae cyfoeth o dystiolaeth wreiddiol wedi crynhoi yng nghofnodion a thystiolaeth y rhai hynny a fu’n rhan o hanes degawdau cyntaf datganoli. O’r 62 AC benywaidd sydd wedi gwasanaethu, mae 19 wedi ymddeol, 12 wedi colli eu seddau, dwy wedi ymddiswyddo, un wedi marw ac mae 28 yn dal yn gwasanaethu heddiw.

Hyd yn hyn, ychydig iawn o wleidyddion benywaidd Cymru sydd wedi rhoi eu casgliadau materol - yn ddogfennau, ffotograffau a phapurau - i’w cadw’n ddiogel ar gyfer y dyfodol mewn archifau cydnabyddedig. Bydd cyfweliadau hanes llafar gyda’r holl ACau hyn yn cael eu recordio er mwyn canfod mwy am eu cefndiroedd, sut y daethant i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, pa anawsterau a gawsant, a’u diddordebau arbennig ym maes gwleidyddiaeth.

Yn ôl Catrin Stevens, Cadeirydd Archif Menywod Cymru, “Mae’r cynrychiolwyr benywaidd democrataidd hyn wedi gwneud cyfraniadau enfawr i hanes gwleidyddol datganoli yng Nghymru – rhaid diogelu eu cofnodion a’u storïau ar gyfer y dyfodol. Braint yr Archif fydd cyfrannu at ddathlu’r cyfraniadau hyn trwy ddiogelu’r archif hanesyddol werthfawr hon.” 

Dywedodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, “Mae’n allweddol bod cyfraniad menywod mewn gwleidyddiaeth Gymreig yn cael eu casglu ar gof a chadw er mwyn i ni gyd – yn ddynion, menywod, hen ag ifanc – ddysgu o’u profiadau. Ugain mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad, mae gan ein senedd enw da iawn am gefnogi menywod ac roeddem yn falch iawn yn 2003 o fod y ddeddfwrfa gyntaf i gyrraedd cydbwysedd 50:50 o ran rhyw. Rwy’n mawr obeithio bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu hysbrydoli i ymwneud â gwleidyddiaeth ar sail cyfoeth yr archif hon.”