GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol

Cyhoeddwyd 08/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/08/2019


  • 25-29 Medi 2019 yn y Senedd, Adeilad y Pierhead ac ar daith yn yr hydref 
  • Charlotte Church, Rhys Ifans, Gŵyl Comedi Machynlleth a gig gerddoriaeth Gymreig ar yr amserlen uchelgeisiol

Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd ym mis Medi fydd yn canolbwyntio ar Gymru’r dyfodol. 

Mi fydd GWLAD yn gymysgedd bywiog o sgyrsiau a darlithoedd, celf, comedi, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth. 

Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â nifer o bartneriaid dylanwadol a chreadigol, yn rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, sydd hefyd yn cynnwys tri digwyddiad undydd GWLAD mewn tri lleoliad ar draws Cymru yn yr hydref.

Mae pob un o’r partneriaid sy’n helpu i lwyfannu GWLAD dros y pum niwrnod ym Mae Caerdydd, yn cyfrannu at amserlen amrywiol yr ŵyl sydd â thrafod dyfodol meysydd amrywiol fel newyddiaduraeth, chwaraeon, gwleidyddiaeth a diwylliant wrth ei hanfod. 

Sgwrs, Comedi, Cerddoriaeth, Gwleidyddiaeth a mwy

Mae’r gantores Charlotte Church wedi defnyddio ei llais fel ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol. Yn ei chwmni, mewn sesiwn dan arweiniad Cyngor Celfyddydau Cymru, byddwn yn ystyried y cysylltiad rhwng celf a gwleidyddiaeth, ac yn meddwl am ddemocratiaeth o safbwynt diwylliant. 

Mae’r actor a’r ymgyrchydd Rhys Ifans yn storïwr heb ei ail, ac mi fydd ganddo ddigon o hanesion i’w rhannu am ei fywyd, ei waith a’i angerdd at Gymru a’i dyfodol. BAFTA Cymru ac Into Film Cymru sy’n cyflwyno’r sesiwn sgwrs hon.

Y Cwrt fydd cartref comedi yn yr ŵyl a dyma ble bydd Gŵyl Gomedi Machynlleth yn gosod llwyfan; ardal o’r Senedd sy’n anaml ar agor i’r cyhoedd. Tudur Owen sy’n arwain sioe ddwyieithog gydag enwau cyfarwydd o’r sîn gomedi.

Am y tro cyntaf erioed, mi fydd y rhaglen drafod BBC Question Time yn ymweld â’r Senedd i ddarlledu trafodaeth ar nos Iau 26 Medi. Mae modd i bobl wneud cais i fod yn y gynulleidfa ar wefan y BBC.

I roi blas o’r sesiynau eraill sydd yn llewni’r amserlen amrywiol, mi fydd Cyngor Hil Cymru yn cynnal trafodaeth banel am Gymru amlddiwylliannol, mi fydd trafodaethau am newyddion ffug a’r cyfryngau, cydraddoldeb ym myd gwleidyddiaeth a barn bobl am ddatganoli yng Nghymru. Bydd Gig GWLAD yn dathlu cerddoriaeth Gymreig, ac mi fydd y bandiau a’r artistiaid yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r rhaglen gyflawn ddiwedd mis Awst. 

Bydd gweithgareddau GWLAD yn cael eu cynnal yn y Senedd ac adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Drwy gydol yr ŵyl, mi fydd y Senedd yn gartref i arddangosfa gelf sy’n cynnwys lluniau o Gymru wedi ei churadu’n arbennig gan Ffotogallery, cyn iddi fynd ar daith ar draws Cymru. Bydd GWLAD ar daith yn yr hydref drwy Gymru gyda gwyliau undydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a’r Wyddgrug. 

Gosod y drafodaeth yn nwylo pobl Cymru

Procio’r meddwl a sbarduno sgwrs am y dyfodol yw nod GWLAD, yn ôl Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AM, yn ogystal â dathlu llwyddiant Cymru drwy adloniant a chelf:

“Rydym yn llwyfannu GWLAD er mwyn gosod trafodaeth am nifer eang o bynciau gwahanol yn nwylo pobl Cymru. Byddwn hefyd yn mwynhau adloniant, celf, comedi a cherdd wrth i ni bwyso a mesur a dathlu llwyddiannau talentau Cymru. Wrth i ni nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad, byddwn yn troi ein golygon at yr 20 mlynedd nesaf. Sut wlad ydym ni am fyw ynddo mewn degawdau i ddod? I ba gyfeiriad sydd angen teithio a sut mae cyflawni hynny? 

“Gyda diolch i’r holl bartneriaid, ac mae yna nifer fawr ohonyn nhw, edrychwn ymlaen at weld pobl yn cyfrannu at y sgwrs ac yn mwynhau’r ŵyl brysur ac amrywiol yma ym Mae Caerdydd ddiwedd mis Medi, ac yna ar daith yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a’r Wyddgrug.” 

Mae manylion llawn am yr amserlen hyd yma ar gael ar wefan datganoli20.cymru

Mae GWLAD yn ŵyl rad ac am ddim, ond bydd angen archebu tocyn ar gyfer sesiynau. Cyntaf i’r felin fydd hi ac mi fydd y tocynnau ar gael i’w harchebu ar-lein o ddiwedd y mis. Bydd cyfle i eraill wylio’r prif ddigwyddiadau a fydd yn cael eu ffrydio ar wefan datganoli20.cymru

Gall pobl danysgrifio i dderbyn newyddion ar e-bost drwy lenwi ffurflen ar y wefan neu drwy gadw llygad ar Twitter @CynulliadCymru a gwefan datganoli20.cymru

Partneriaid creadigol a dylanwadol

Mae’r Cynulliad yn ddiolchgar i restr hir o bartneriaid am eu cyfraniad i’r ŵyl. Yn cydweithio i lwyfannu GWLAD mae: 

BAFTA Cymru, BBC Cymru, BBC Gorwelion, BBC Question Time, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Chwarae Teg, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Hil Cymru, Ffotogallery, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Into Film Cymru, ITV Cymru, Materion Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Abertawe - Academi Morgan, Prifysgol Aberystwyth - Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Caerdydd - Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, S4C, Sefydliad Materion Cymreig.