Gwobrwyo Comisiwn y Senedd am fonitro amrywiaeth a chynhwysiant

Cyhoeddwyd 09/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Comisiwn y Senedd wedi cael ei gydnabod gan y Rhwydwaith Cyflogwyr ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant (ENEI) am ei ymdrechion i hyrwyddo amrywiaeth yn y sefydliad. 

Rhwydwaith blaenllaw i gyflogwyr yn ymdrin â phob agwedd ar gydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle yw ENEI.  

Dyfarnodd y rhwydwaith wobr arian i'r Senedd yn y cynllun meincnodi Cynhwysiant Talent a Gwerthuso Amrywiaeth (Talent Inclusion and Diversity Evaluation – TIDE).  

Mae hyn yn welliant ar y safon y llynedd, pan ddyfarnwyd wobr efydd i’r Senedd. Cynyddodd sgôr y Senedd o 64 y cant yn 2020 i 80 y cant eleni.  

Mae’r cynllun yn rhoi sgôr i sefydliadau ar draws nifer o feysydd gan gynnwys, monitro’r gweithlu, strategaeth amrywiaeth, arweinyddiaeth, recriwtio, hyfforddi ac ymgysylltu. Mae’r sgôr uwch yn adlewyrchu’r gwaith y mae Comisiwn y Senedd wedi’i wneud i wreiddio amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad drwy arweinyddiaeth gref, rhwydweithiau staff cefnogol, codi ymwybyddiaeth yn barhaus a datblygu polisïau cynhwysol.  

Cafodd y Senedd ei chydnabod hefyd am ei hymrwymiad i fonitro data amrywiaeth er mwyn gweithredu newid ar gyfer staff a’r bobl sy’n ymgeisio am swyddi. Mae timau'r Senedd hefyd wedi gweithio'n galed drwy gydol pandemig Covid-19 gan addasu polisïau i gefnogi staff yn well wrth weithio gartref.  

Dywedodd Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Cynhwysiant; "Rydym yn hynod falch o'n gwaith, a bydd y gydnabyddiaeth newydd hon yn cefnogi ein hymdrechion parhaus i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y cyflawniad hwn yn y dyfodol a sicrhau bod holl weithwyr y Senedd yn parhau i weithio yn yr amgylchedd gorau posibl."