Hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio- diwrnod hanesyddol i ddemocratiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2019


Bydd hawl gan bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2021, fel rhan o'r newidiadau mwyaf i'r drefn ddemocrataidd yng Nghymru ers hanner canrif.

Heddiw, 27 Tachwedd 2019, mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid deddfwriaeth hanesyddol, yng nghyfnod olaf y Bil Senedd ac Etholiadau, a fydd yn gweithredu'r estyniad mwyaf i'r etholfraint yng Nghymru ers 1969.

Mae'r Bil yn cynnwys diwygiadau eang sy'n golygu newidiadau i'r rheolau ynghylch pwy sy'n cael pleidleisio a phwy sy'n gallu sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad

Mae'n golygu y bydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed - am y tro cyntaf - ddylanwad wrth ddewis yr Aelodau a fydd yn eu cynrychioli yn y Cynulliad nesaf a bydd yn rhoi llais iddyn nhw dros y penderfyniadau a fydd yn diffinio eu dyfodol.

Y tro diwethaf y cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng, o 21 i 18 oed, oedd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1969. Mae ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 oed yn un "hir ddisgwyliedig" yn ôl Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC;

"Roedd hon yn bleidlais i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed - cam hir ddisgwyliedig i lawer.

"Mae'r Bil yma, yn fy marn i, yn creu Senedd sy'n fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, a bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r Bil yn rhoi enw ar ein deddfwrfa sy'n adlewyrchiad gwirioneddol o'i statws cyfansoddiadol ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldeb y Senedd. Ac un fydd yn dod ag egni newydd i'n proses ddemocrataidd.

"Rwy'n falch bod Cymru wedi cymryd y cam pwysig i gryfhau sail ein democratiaeth seneddol, sef rhywbeth y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni amdano."

Gostwng yr oedran pleidleisio yw un o'r nifer o newidiadau sydd wedi eu cymeradwyo wrth basio'r Bil. Yn eu plith mae cadarnhau enw dwyieithog newydd ar gyfer y Cynulliad, sef Senedd Cymru / Welsh Parliament - enw a fydd yn adlewyrchu yn fwy cywir statws y sefydliad fel deddfwrfa aeddfed.

Ymhlith y prif newidiadau mae: 

  • Gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed.
  • Enw swyddogol newydd Senedd Cymru / Welsh Parliament .
  • Rhoi'r bleidlais i ddinasyddion tramor cymwys.
  • Newid y gyfraith fel bod y gwaharddiadau sy'n rhwystro pobl rhag dod yn aelodau Cynulliad ddim yn eu rhwystro rhag bod yn ymgeisydd mewn etholiad, ac felly'n caniatáu i fwy o bobl allu bod yn ymgeiswyr.
  • Darparu bod y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gyllido gan y Cynulliad am etholiadau Cymreig ac yn atebol i'r Cynulliad.

 

Y Bil Senedd ac Etholiadau yw rhan gyntaf rhaglen Diwygio'r Cynulliad ac mae'n seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad annibynnol Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

Cadeirydd y panel oedd yr Athro Laura McAllister, ac meddai wrth ymateb i'r bleidlais:

"Heddiw ry'n ni wedi cymryd cam mawr ymlaen ar ddiwrnod hanesyddol i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru. Wrth ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2021, mi fydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed bŵer y bleidlais am y tro cyntaf yng Nghymru.

"Mae'r Cynulliad yn sefydliad gwahanol iawn i'r un a sefydlwyd yn 1999, a dyma pam y cawsom ni, fel panel o arbenigwyr annibynnol, y dasg o adolygu a chynnig syniadau ar gyfer newid. Mae pasio'r Bil Senedd ac Etholiadau heddiw wedi cyflwyno newidiadau mawr fel rhan o esblygiad y Senedd. Mae'r daith yn parhau, ac mae rhagor o newidiadau i ddod fel rhan o gyfres o ddiwygiadau eang sydd â'r nod o adeiladu deddfwrfa sydd hyd yn oed yn fwy effeithiol a chynhwysol sy'n gwasanaethu pobl Cymru yn well."

Mi fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gweithredu ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2020.

 

Mae modd gwylio'r sesiwn gyfan ar wefan Senedd TV