Hawliau plant ar yr agenda wrth i un o bwyllgorau'r Cynulliad holi'r Prif Weinidog yn Nhorfaen

Cyhoeddwyd 25/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Bydd materion sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hystyried fel rhan o gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn Nhorfaen ddydd Gwener 27 Hydref.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân i holi Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, ynghylch dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran diogelu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc.
 
Bydd y Pwyllgor yn cwrdd â grwpiau ieuenctid a chynghorau ysgol o'r ardal ymlaen llaw i wrando ar eu pryderon am hawliau a'r materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.
 
Bydd rhai o'r materion hynny yn cael eu trafod gyda’r Prif Weinidog yn ystod cyfarfod ffurfiol y pwyllgor.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 2004 a phasiodd y Cynulliad Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011, gan roi dyletswydd ar holl Weinidogion Cymru i roi sylw i’r hawliau a’r rhwymedigaethau o sylwedd sydd ynghlwm wrth y Confensiwn a’i brotocolau dewisol.
“Mae hawliau plant a phobl ifanc yn rhan annatod o’r ffordd y caiff cyfreithiau a pholisïau eu creu yng Nghymru,” meddai Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
 
“Bydd y cyfle i gwrdd â phobl ifanc a chlywed beth y maen nhw’n ei wybod am eu hawliau a pha faterion sy’n effeithio fwyaf ar eu bywydau yn rhan hynod werthfawr o’n hymweliad â Chwmbrân a’r gwaith o graffu ar y Prif Weinidog.
 
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed a rhannu eu safbwyntiau.”
 
Dyma rai o’r pynciau a gaiff eu trafod yn ystod y cyfarfod:
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yn y broses o ddarparu ei rhaglenni, ei pholisïau a'i harferion;
  • Sut y gallai Brexit effeithio ar hawliau plant yng Nghymru;
  • Ymrwymiadau ac agweddau allweddol ar y rhaglen lywodraethu sy'n berthnasol i hawliau plant a phobl ifanc; a
  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth ddylunio a darparu eu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd unrhyw gwestiynau nad oes amser i’w gofyn yn cael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i'r Prif Weinidog ar ôl y cyfarfod.