Heb gymorth gwirfoddolwyr ni ellid fod wedi darparu gwasanaethau allweddol yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd 02/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2021   |   Amser darllen munudau

Ni ellid bod wedi darparu llawer o wasanaethau a gweithgareddau allweddol yn ystod pandemig y Coronafeirws heb gefnogaeth gwirfoddolwyr ledled Cymru.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd wedi canfod fod y sector gwirfoddol wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i'r feirws sydd wedi ysgubo drwy’r byd gan arwain at golli bywydau a chyfyngiadau llym.

Yn benodol, cafodd y sector ei ganmol gan y Pwyllgor am ei ystwythder a deallusrwydd lleol a arweiniodd at 'ddatrysiadau lleol ar gyfer materion lleol' fu’n help mawr i gymunedau mewn sawl rhan o'r wlad.

Ymchwydd

Cynnydd mewn gwirfoddoli oedd un o'r ychydig agweddau cadarnhaol ar y pandemig. Dywedodd Helpforce Cymru fod 18,000 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi cofrestru yn yr wythnosau cyntaf ar ôl dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth y llynedd. Erbyn mis Rhagfyr 2020, roedd y nifer hwnnw wedi codi i 22,000.

Ond mae’n anodd deall y darlun llawn am fod nifer o grwpiau a threfniadau anffurfiol wedi eu gwneud gan bobl yn eu cymunedau lleol iawn eu hunain, gan ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn aml.

Gydag ymchwydd o'r fath mewn bobl parod eu cymwynas, cafodd llawer o sefydliadau eu llethu gan ymholiadau ac nid oedd modd gosod tasgau i bawb oedd wedi cynnig helpu.

Cafodd Mantell Gwynedd, sy'n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd, tua 600 o gynigion o gymorth yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig. Yn y pen draw, cafwyd lle i tua 50 y cant o'r gwirfoddolwyr newydd hynny.

Mi ddywedodd Mantell Gwynedd wrth y Pwyllgor:

“Os oes ‘na un peth yr hoffwn allu ei wneud yn deillio o’r pandemig yma, y dymuniad hwnnw fyddai rhoi’r holl frwdfrydedd gwirfoddoli mewn potel a rhoi caead arni a’i agor ychydig bob tro y bydd angen rhywfaint ohono yn y dyfodol. Pe baen ni ond yn gallu gwneud hynny.”

Mae'r Pwyllgor yn credu y gallai'r sector gwirfoddol chwarae rhan hanfodol mewn unrhyw ymateb brys ar raddfa fawr ac mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y ffordd orau o ymgorffori cyfleoedd o'r fath yn ei strategaeth.

Cyllid

Roedd y sector gwirfoddol eisoes yn wynebu nifer o heriau cyn y pandemig, ac mae’n nhw wedi gwaethygu. Un enghraifft yw colli llu o ffrydiau incwm tra'n wynebu galw cynyddol am wasanaethau.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn amcangyfrif y bydd elusennau a mudiadau gwirfoddol sydd â'u pencadlys yng Nghymru yn colli cymaint â £620 miliwn yn ystod y flwyddyn.

Mae'r sefyllfa’n waeth i’r sefydliadau hynny sydd wedi arallgyfeirio eu ffrydiau incwm ac sy'n llai dibynnol ar grantiau a chyllid y llywodraeth.

Dywedodd Fforwm Cyllidwyr Cymru wrth y Pwyllgor:

“Yr eironi yn hyn i gyd yw bod y mudiadau hynny a wnaeth y peth iawn, y rhai a oedd wedi mynd allan ac adeiladu model cyllido mwy amrywiol, oedd yn masnachu, oedd yn codi arian gan y cyhoedd—y mudiadau hynny sydd wedi dioddef, lle nad yw y rhai a oedd ond yn gweithredu ar grantiau wedi teimlo cymaint o effaith o ran cyllid.”

Mae'r Pwyllgor am weld sector sy’n fwy gwydn gyda chymorth ychwanegol ac ymrwymiadau ariannu gan Lywodraeth Cymru yn ymestyn y tu hwnt i'r pandemig.

Mae hefyd am weld pwyslais ar gefnogi mudiadau gwirfoddol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) sydd wedi eu heffeithio yn anghymesur.

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd, "Yn ystod yr ymchwiliad hwn, mae'r Pwyllgor wedi cael ei ysbrydoli gan ymdrechion pobl a sefydliadau ledled y wlad sy'n barod i roi o'u hamser, eu sgiliau a'u cymorth eu hunain i helpu'r rhai mewn angen.

"Maent wedi bod yn rhan hanfodol o'r ymateb i bandemig y Coronafeirws ac rydym yn argyhoeddedig na ellid bod wedi darparu llawer o wasanaethau allweddol mor effeithiol hebddynt.

"Credwn fod gan wasanaethau gwirfoddol rôl hanfodol i'w chwarae mewn unrhyw strategaeth ymateb brys ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ffurfioli'r rôl honno.

"Ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod y problemau y mae llawer o sefydliadau'n eu hwynebu, yn ystod y pandemig a chyn hynny. Mae cyllid cadarn a dibynadwy yn hanfodol i sicrhau eu bod yn goroesi, yn ogystal â chefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn annog gweinidogion i weithredu ar ein hargymhellion."

Mae'r pwyllgor yn gwneud 20 o argymhellion yn ei adroddiad a fydd, nawr, yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.