Heb newid, bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn methu â diwallu anghenion carcharorion

Cyhoeddwyd 31/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd wedi canfod nifer o fethiannau yng ngharchardai Cymru, sy'n golygu nad yw'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol bob amser yn diwallu anghenion carcharorion.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor wedi tynnu sylw at broblemau sy'n codi o'r ffordd gymhleth y mae carchardai'n cael eu llywodraethu. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gyfiawnder tra bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol yn y mwyafrif o garchardai sector cyhoeddus Cymru. Clywodd y Pwyllgor nad oedd bob amser yn eglur pwy oedd yn gyfrifol am ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth carcharorion, yn golygu fod anghenion yn aml heb eu cydnabod neu eu diwallu.

Apwyntiadau meddygol a gollir

Mae ymchwiliad y Pwyllgor i iechyd a gofal cymdeithasol mewn carchardai wedi canfod fod llawer o garcharorion yn colli apwyntiadau gofal iechyd am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, gan effeithio ar iechyd carcharorion ac hefyd yn gwastraffu amser ac adnoddau'r GIG.

Mae tystiolaeth i'r ymchwiliad wedi dangos darlun cymysg ar draws chwe charchar Cymru, gyda rhai carchardai hyd yn oed ddim yn monitro apwyntiadau wedi eu colli.

Er bod rhai carchardai yn gweithredu i daclo’r sefyllfa, mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod yn annerbyniol nad yw rhai carcharorion yn gallu mynychu apwyntiadau meddygol am resymau fel diffyg argaeledd staff carchardai. Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch yr anghysondeb ar draws carchardai wrth fonitro apwyntiadau gofal iechyd wedi eu colli.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu 'dangosydd perfformiad cenedlaethol' ar gyfer mynychu apwyntiadau gofal iechyd, ac i weithio gyda'i phartneriaid i hwyluso’r broses o rannu dysgu ac arfer gorau fel bod pob carcharor yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau iechyd angenrheidiol.

Dementia a charcharorion hŷn

Mae disgwyl i'r cynnydd yn nifer y carcharorion hŷn barhau a clywodd Aelodau y byddai'n debygol y byddai hyn yn golygu mwy o garcharorion â mwy o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sy’n fwy cymhleth.

Clywodd y Pwyllgor hefyd am absenoldeb sgrinio a diagnosis dementia gan ei gwneud yn anodd adnabod a oedd ymddygiad heriol carcharor yn deillio o drallod cyffredinol, camddefnyddio sylweddau neu ddementia.

Dywedodd byrddau iechyd fod y diffyg sgrinio a diagnosis cynnar ar gyfer dementia ymhlith poblogaeth y carchardai yn anghyson â'r uchelgeisiau yng nghynllun gweithredu dementia Llywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor yn galw am y canlynol:

  • Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ddatblygu llwybr dementia i garcharorion
  • Cyflwyno prosesau sgrinio a diagnosis cynnar ar gyfer dementia
  • Pobl sy'n cael diagnosis o ddementia i dderbyn y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt
  • Hyfforddiant i staff carchardai ar gefnogi carcharorion hŷn a charcharorion sydd â dementia

Cyllid teg

Roedd tystiolaeth i'r Pwyllgor yn amlinellu sut mae'r system gyllido gyfredol ar gyfer gofal iechyd carchardai yng Nghymru wedi dyddio, ac nid yw'r lefel gyllido yn ddigonol i fodloni gofynion poblogaeth carchardai sy'n cynyddu ac yn heneiddio.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu bod y trefniadau cyllido ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd carchardai yn gymhleth a bod diffyg tryloywder. Mae lefel y cyllid o fewn Bloc Cymru gan Lywodraeth y DU yn annigonol, heb ei gynyddu ers 2004-05.

Mae’r Pwyllgor yn galw am y canlynol:

  • Llywodraeth Cymru i ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar gyllid teg, digonol a chynaliadwy ar gyfer gofal iechyd yng ngharchardai’r sector cyhoeddus
  • Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i goladu, adolygu a chyhoeddi gwybodaeth am gostau darparu gofal iechyd ar draws pob un o'r chwe charchar yng Nghymru

Data COVID-19 ar gyfer carchardai

Mae'r Pwyllgor wedi dychryn o glywed am yr anhawster i gael gafael ar ddata ar garchardai Cymru. Heb geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, ni fyddai effaith y pandemig ar garcharorion yng ngharchardai Cymru yn hysbys. Dim ond ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth wnaeth ddatgelu nifer o bobl yng ngharchardai Cymru a gafodd brawf COVID-19 positif neu a fu farw ohono ac nid oes data ar gael o hyd ar lefel y brechlynnau a gynigir neu a gymerwyd yng ngharchardai Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei ddangosfwrdd COVID-19 nifer yr achosion a marwolaethau COVID-19 ymhlith carcharorion, a nifer y brechiadau COVID-19 gynigir ac a gymerwyd ymhlith poblogaeth y carchardai.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Nid yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol carchardai yn aml ar yr agenda ond mae COVID-19 unwaith eto wedi dod â’r problemau i’r amlwg.

“Mae'r pandemig yn tynnu sylw at ddiffyg tryloywder carchardai a Llywodraeth Cymru ac yn syml, nid oes gennym ddarlun llawn o sut mae'n effeithio ar boblogaeth y carchardai. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ar frys fel bod gennym ddealltwriaeth glir o'r problemau.

“Mae'r ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol carchardai yn cael ei ariannu, ei gomisiynu a'i ddarparu yn gymhleth ac yn ddryslyd gan arwain at amrywiaeth o wasanaethau ledled chwe charchar Cymru.

“Fel Pwyllgor rydym wedi dychryn o glywed am nifer y carcharorion sy'n colli apwyntiadau gofal iechyd heb unrhyw fai arnyn nhw, sy'n golygu risg i'w hiechyd a gwastraff o amser ac adnoddau'r GIG - rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i fynd i'r afael â'r broblem hon.

“Mae poblogaeth y carchardai yng Nghymru yn heneiddio, a gyda hynny daw heriau pellach. Nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda charchardai a phartneriaid i sicrhau bod gan garcharorion hŷn y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw a bod staff wedi'u hyfforddi'n iawn."