Mae Helen Mary Jones wedi ei dychwelyd fel Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dilyn ymddiswyddiad Simon Thomas.
Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cael ei hysbysu gan Swyddog Canlyniadau Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd Helen Mary Jones yn tyngu llw mewn seremoni breifat ym Mae Caerdydd ddydd Iau, 2 Awst.