Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gyflwyno â deiseb ffurfiol yn galw am newid y canllawiau ar gyfer gofal meddygol a gaiff ei roi i fabanod a gaiff eu geni'n 22 wythnos neu ar ôl 22 wythnos yng Nghymru.
Cafwyd dros 300 o lofnodion ar fersiwn papur y ddeiseb a 2,543 ar-lein, ac fe'i cyflwynwyd yn ffurfiol i'r Pwyllgor ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd am 13.00 ddydd Mawrth 14 Hydref.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
- newid y canllawiau fel bod babanod sy'n cael eu geni ar ôl 22 wythnos ac sy'n dangos arwyddion o fywyd yn cael y gofal meddygol priodol; ac
- wrth newid y canllawiau hynny yn sicrhau y bydd Pediatregydd yn pwyso a chadw golwg ar bob baban sy'n cael ei eni ar ôl 22 wythnos sy'n dangos arwyddion o fywyd yn union wedi'r enedigaeth er mwyn i glinigwyr wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch cyfle'r baban i oroesi.