Mae sefydliadau ym maes y celfyddydau a threftadaeth yn cael eu herio i feddwl yn wahanol am gymunedau sy’n cael eu hystyried fel rhai ‘sy’n anodd eu cyrraedd’ er mwyn defnyddio diwylliant a'r celfyddydau i daclo tlodi a chynnwys pobl sydd ar gyrion cymdeithas.
Yn ystod ymchwiliad diweddar, cafodd un o Bwyllgorau’r Cynulliad eu hargyhoeddi gan dystiolaeth sy'n awgrymu mai'r sefydliadau eu hunain sy’n anodd eu cyrraedd.
Clywodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol fod pobl mewn ardaloedd mwy difreintiedig, neu ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, o’r farn bod sefydliadau o'r fath yn bell oddi wrthynt a ddim ar eu cyfer nhw.
Dywedodd Kathryn Williams, o gwmni dawns Rubicon Dance, sefydliad datblygu dawns gymunedol yn ardal Caerdydd a Chasnewydd, y canlynol wrth y Pwyllgor:
“Yn ein profiad ni, nid yw’r cymunedau rydym ni’n gweithio â nhw o’r farn eu bod nhw’n anodd eu cyrraedd, nid ydynt yn ystyried eu hunain fel cymunedau difreintiedig. Ond maen nhw’n meddwl bod sefydliadau fel hyn yn rhai sy’n bell iawn, iawn oddi wrthynt, ac mae hynny wedi llywio’r ffordd rydyn ni, fel sefydliad, yn gweithio. Rydym yn mynd â’n gwaith at bobl yn fwriadol. Mae angen i ni feddwl am bobl 'anodd eu cyrraedd' yn wahanol ac, os ydym ni’n honni fod y bobl hyn 'yn anodd eu cyrraedd' yna mae angen i ni weithio’n galetach i’w cyrraedd nhw ac edrych ar strategaethau gwahanol.”
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen fach o'r enw Cyfuno sy'n ariannu cydgysylltydd mewn naw awdurdod lleol i annog grwpiau celfyddydol, diwylliannol a chymunedol i gydweithio ar brosiectau gwahanol.
Mae tystiolaeth helaeth yn dweud fod cynnwys pobl a chymunedau mewn prosiectau o'r cychwyn cyntaf yn rhoi ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth iddyn nhw, sydd yn cynyddu’r diddordeb ac yn golygu fod mwy o bobl yn cymryd rhan. Oherwydd hyn, mae mwy o bobl yn elwa o’r profiad diwylliannol – o ddysgu sgiliau newydd i fagu hyder ac iechyd meddwl gwell.
Mae’r Pwyllgor eisiau gweld rhaglen Cyfuno gael ei chyflwyno ar draws Cymru gyda mwy o gyllid. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai unrhyw sefydliad celfyddydol neu ddiwylliannol sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ddangos sut maen nhw’n mynd i'r afael â thlodi fel rhan o'i strategaeth.
Dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y canlynol:
“Mae sefydliadau celfyddydol yn bodoli am fod pobl yn ein plith sy’n meddwl mewn ffordd wahanol a chreadigol.
“Ond mae angen i’r sefydliadau fod yn fwy creadigol wrth estyn allan a chynnwys cynulleidfaoedd a chymunedau newydd.
“Nid yw’r bobl hyn yn anodd eu cyrraedd; y cyfle i gymryd rhan yw’r cyfan sydd ei angen. Mae angen iddynt deimlo fod gwaith y sefydliadau yn berthnasol ac ar eu cyfer nhw.
“Mantais yr enghreifftiau rydym wedi’u gweld, lle mae cymunedau’n cael eu cynnwys o’r cychwyn cyntaf, yn fod mwy o bobl wedi cymryd rhan, a bod y prosiectau wedi magu hyder a gwell iechyd meddwl ymhlith y bobl hynny.”
Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys wyth argymhelliad, gan gynnwys:
- Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad ar raddfa fawr o raglen Cyfuno sy'n asesu'r amcanion gwreiddiol, y cyllid a'r gwerthusiad;
- Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru sicrhau bod holl aelodau Portffolio Celfyddydol Cymru (ei sefydliadau a ariennir gan refeniw) yn gweithio gyda'r cymunedau gwahanol y maent yn eu gwasanaethu i gynllunio eu rhaglen weithgareddau;
- Dylai Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ei gwneud yn ofynnol i’r holl gyrff celfyddydau a diwylliannol sy'n cael cyllid cyhoeddus nodi eu hamcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol yn eu cynlluniau strategol. Dylai'r rhai sy'n cael cyllid hefyd nodi sut y maent yn bwriadu cydgynllunio gweithgareddau a chynnwys creadigol gyda'r cynulleidfaoedd targed hyn.
Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.