Iechyd plant yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol

Cyhoeddwyd 07/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2019

Mae Cymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant, yn ôl Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ystod ei ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, clywodd y pwyllgor dystiolaeth glir bod lefelau gweithgarwch corfforol a llonyddwch ymhlith plant yng Nghymru yn rhai o'r lefelau gwaethaf yn y byd.

Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y plant rhwng pedair a phum mlwydd oed sy'n ordew dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda mwy nag un o bob pedwar o blant rhwng pedair a phum mlwydd oed bellach dros eu pwysau neu'n ordew.

Mae'r pwyllgor yn pryderu nad yw sgiliau echddygol sylfaenol yn cael eu haddysgu i blant ifanc yng Nghymru a bod camsyniad cyffredin y bydd y sgiliau hyn yn datblygu'n naturiol yn ystod plentyndod. Clywodd fod plant sy'n oedi cyn dysgu Sgiliau Echddygol Sylfaenol yn llai tebygol o fod yn gorfforol weithgar, nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru, y canlynol wrth y Pwyllgor:

"Rydym yn hyfforddi'r athrawon i ddeall sut y mae plant yn symud drwy'r camau hynny. Maent yn ei wneud mewn llythrennedd a rhifedd, ond nid oes neb wedi addysgu hynny iddynt mewn cyd-destun corfforol. Cafwyd camsyniad mawr yn y byd academaidd ynghylch datblygiad echddygol – yn awgrymu bod plant yn dysgu hynny ar eu pen eu hunain drwy chwarae. Ond mae hynny fel taflu bag o lythrennau yn yr ystafell a dweud, 'Chwaraewch gyda nhw ddigon a byddwch yn dysgu darllen', ac mae athrawon yn dweud, 'Mae hynny'n chwerthinllyd'. Yr un peth ydyw. Felly, mae gwir angen i ni lenwi'r bwlch gwybodaeth hwn gyda'n hathrawon a dyna beth rydym wedi bod yn ei wneud, ac yn ei gyflwyno."

Cytunodd y Pwyllgor â rhanddeiliaid fod gan ysgolion rôl hanfodol i'w chwarae wrth annog plant a phobl ifanc i fod yn fwy corfforol weithgar.

Mae'n bryderus y gall gweithgarwch corfforol gael ei wasgu o amserlenni ysgolion oherwydd pwysau'r cwricwlwm, ac nid yw llawer o ysgolion yng Nghymru yn darparu'r 120 o funudau wythnosol a argymhellir ar gyfer addysg gorfforol.

 

 

 

Dywedodd Tim Pratt, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, y canlynol:

"Rwy'n credu bod un o'r problemau mwyaf rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ymwneud â'r system atebolrwydd sydd gennym, sy'n gwthio mwy a mwy o ysgolion i roi mwy a mwy o amser i bethau pwysig y mae eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer arholiadau, ond ar draul meysydd eraill. Felly, beth rydym yn ei ganfod yn fwyfwy yw, er mwyn rhoi amser ychwanegol ar gyfer rhifedd neu lythrennedd, fod ysgolion yn dweud, 'Wel, mae'n rhaid i rywbeth fynd i roi'r amser hwnnw i ni, felly byddwn yn cwtogi ychydig o amser a dreulir ar Addysg Gorfforol, dawns, cerddoriaeth neu beth bynnag."

Mae'r Pwyllgor yn credu nad yw gweithgarwch corfforol yn cael digon o flaenoriaeth mewn ysgolion a bod rhaid i hyn newid. Mae'r aelodau o'r farn bod datblygu'r cwricwlwm newydd sydd ar ddod yn gyfle i unioni'r cydbwysedd drwy roi sylw a blaenoriaeth haeddiannol i weithgarwch corfforol.

"Rydym wedi clywed rhywfaint o'r dystiolaeth fwyaf clir eto ein bod yn wynebu argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant," dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Mae'r dystiolaeth sy'n ategu'r angen i addysgu Sgiliau Echddygol Sylfaenol yn ifanc yn gymhellol ac mae pryder gwirioneddol bod gweithgarwch corfforol gwerthfawr yn cael ei wasgu o'r amserlenni oherwydd blaenoriaethau eraill yn ein hysgolion.

"Ond wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy nag ysgolion. Mae anweithgarwch corfforol yn broblem genedlaethol sy'n effeithio ar bob un ohonom, ac mae angen ymrwymiad trawsadrannol gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem.

"Os nad ydym yn dechrau cymryd camau brys nawr i newid agweddau tuag at weithgarwch corfforol, rydym yn cronni problemau ar gyfer y cenedlaethau i ddod."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 20 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Bod Llywodraeth Cymru cymryd camau pellach yn y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei alluogi i ddatblygu'r Sgiliau Echddygol Sylfaenol sy'n ofynnol ar oedran cynnar yn yr ysgol, a sicrhau yr ymdrinnir yn llawn â bylchau yn y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd mewn perthynas â'r sgiliau hyn;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y 120 o funudau o addysg gorfforol a argymhellir mewn ysgolion yn ofyniad statudol sylfaenol;
  • Bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud Ysgolion Bro yn realiti i bawb, a sicrhau cysondeb o ran mynediad at gyfleusterau ysgolion ar gyfer cyfleoedd i gyflawni gweithgarwch corfforol y tu hwnt i oriau ysgol ledled Cymru.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc (PDF, 768 KB)