Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i edrych ar dlodi yng nghefn gwlad Cymru

Cyhoeddwyd 05/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i edrych ar dlodi yng nghefn gwlad Cymru

Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad wedi cytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad newydd i dlodi ac amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru. Dyma’r cylch gorchwyl:       

  • Ymchwilio i faterion yn ymwneud â thlodi ac amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru a chraffu ar berthnasedd ac effeithlonrwydd polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y maes hwn.

  • Gan gyfeirio at y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, bydd yr Is-bwyllgor yn ymchwilio i faint a natur tlodi ac amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru.

  • Bydd yr Is-bwyllgor yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â thlodi ac amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru drwy gyfeirio at y grwpiau a ganlyn:

Plant a phobl ifanc;       
Pobl sy’n economaidd weithgar;
Pobl sy’n economaidd anweithgar; a
Phobl Hyn    

Bydd yr is-bwyllgor yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ac yn cymryd tystiolaeth lafar ar yr ymchwiliad newydd yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor