Cyhoeddwyd 19/03/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Lansio adroddiad y Pwyllgor Addysg ar y broses bontio ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig
Gall bywydau pobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig gael eu difetha os nad oes trefniadau priodol yn cael eu rhoi ar waith i'w helpu i drosglwyddo o'r ysgol i addysg bellach neu i swydd, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae Pwyllgor Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio trydedd rhan, a rhan olaf, ei adolygiad eang o Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn ystyried trefniadau pontio, ac yn rhybuddio bod angen gwneud mwy o ran clustnodi arian, rhannu arferion da ac annog cyflogwyr i roi cyfle i'r bobl ifanc hyn. Gall cyn lleied â 5% o'r bobl yn y grwpiau hyn gael hyd i swydd ond mae tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu ei bod yn bosib cynyddu'r gyfradd hon i 50% drwy gymryd camau priodol.
Prif argymhellion yr adroddiad yw penodi gweithwyr allweddol er mwyn ategu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc, eu teuluoedd neu'u gofalwyr, gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn digon o wybodaeth ac yn deall yn llawn y penderfyniadau sy'n eu hwynebu. Mae'r Pwyllgor hefyd am weld “hyrwyddwr” yn cael ei benodi i ddarbwyllo cyflogwyr am fanteision cyflogi pobl sydd ag anghenion addysgol ychwanegol.
Dywedodd Peter Black AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae'n hanfodol cyflwyno trefniadau priodol er lles y bobl ifanc hyn. Mae'n bwysig iawn bod y gwaith da a wneir yn yr ysgol i'w helpu i wneud y gorau o gyfleoedd addysgol yn parhau pan fyddant yn dod yn oedolion. Fel arall, byddai'r gwaith hwn yn cael ei wastraffu a bywydau'r bobl ifanc yn cael eu difetha. Y prif nod yw galluogi pob person ifanc i gyrraedd ei botensial llawn ac i fyw bywyd cyflawn a bodlon sy'n cyfrannu at ei les personol ac at les y gymdeithas.
Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio am 10.30am yn Ysgol Arbennig Trinity Fields, Ystrad Mynach, Caerffili. Yno bydd Peter Black yn siarad â Cliff Warwick, pennaeth Ysgol Trinity Fields, disgyblion a gofalwyr. Bu un o'r disgyblion hyn ar brofiad gwaith yn y Cynulliad yn ddiweddar, sef Chris McClure sy'n 17 oed.