Welsh Youth Parliament Member

Welsh Youth Parliament Member

Cyhoeddi’r Senedd Ieuenctid nesaf a’r cyfle i gofrestru i bleidleisio

Cyhoeddwyd 03/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/06/2021   |   Amser darllen munudau

  • Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad ym mis Tachwedd
  • Digwyddiad ar-lein i lansio’r ymgyrch i drafod pwysigrwydd perthynas pobl ifanc â democratiaeth
  • Cyfle i gynnig pynciau ar gyfer y Senedd Ieuenctid nesaf

Dy Ddewis - cofrestrwch i bleidleisio

Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru trwy gofrestru i bleidleisio yn Etholiadau 2021 ym mis Tachwedd.

Mae’r broses gofrestru wedi agor heddiw, dydd Iau 3 Mehefin, ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru. Mae’n cymryd 5 munud i gofrestru ac mi fydd modd gwneud hynny hyd nes 12 Tachwedd. Dyma gyfle i bobl ifanc 11 - 18 oed ddefnyddio eu llais wrth ddewis yr Aelodau a fydd yn eu cynrychioli a’u hardal yn y Senedd Ieuenctid nesaf.

Dyma fydd yr ail Senedd Ieuenctid, sy’n cynnwys 60 o bobl ifanc Cymru i gynrychioli ardaloedd a chefndiroedd gwahanol. Drwy gwrdd yn rheolaidd, ymgynghori â phobl ifanc a chynnal ymchwiliadau, maent yn trafod y pynciau sydd fwyaf o bwys i bobl ifanc a’u dwyn at sylw gwleidyddion etholedig Senedd Cymru.

Bydd yr etholiad ar-lein ym mis Tachwedd yn dewis 40 Aelod i gynrychioli holl ranbarthau Cymru yn y Senedd, bydd yr 20 Aelod arall yn cael eu cyflwyno gan sefydliadau partner i sicrhau cynrychiolaeth amrywiol.

Mae’r broses ar gyfer i sefydliadau neu elusennau ymgeisio er mwyn cyd-weithio â’r Senedd Ieuenctid hefyd wedi agor heddiw. Mae gwahoddiad iddynt ymgeisio i fod yn bartner ac i gael cynrychiolydd ifanc ymhlith y 60 Aelod.

Senedd Ieunctid Cymru

Dy Lais – digwyddiad i drafod pobl ifanc a democratiaeth

Bydd Talulah Thomas a Cai Thomas Phillips, cyn-aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, yn cynnal trafodaeth banel ar-lein sy’n cyd-fynd ag Eisteddfod T yr Urdd.

Bydd y sgwrs banel, am 5.00 ddydd Iau 3 Mehefin, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd perthynas pobl ifanc â democratiaeth. Fis ers i bobl ifanc 16 a 17 oed allu pleidleisio yn Etholiad Senedd 2021 am y tro cyntaf, mae cymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru yn un ffordd i sicrhau bod lleisiau ifanc yn parhau i gael eu clywed.

Meddai Talulah Thomas, cyn Aelod dros Dde Clwyd;

“Byddwch yn rhan o Senedd Ieuenctid sy’n rhoi llais i ni dros y pynciau sydd yn bwysig nawr ac yn ein dyfodol. Cofrestrwch nawr er mwyn gallu pleidleisio yn yr Etholiad, anfonwch eich syniadau ar gyfer pynciau i’w trafod ac rwy’n eich annog hefyd i ystyried sefyll i fod yn Aelod hefyd pan ddaw’r cyfle. Ewch amdani – byddwch yn rhan o rhywbeth gwych!”

Bydd Tom Rhydderch o ymgyrch pleidleiswyr ifanc 5M Cymru, Aleena Khan sy’n gyfrannwr cyson ar radio a theledu yn trafod materion diwylliannol a chymdeithasol, a Lleucu Rhydderch sydd yn ysgrifennu i’r cylchgrawn merched Lysh Cymru, yn ymuno â Talulah a Cai ar y panel. Yn cadeirio mae’r newyddiadurwr ITV Cymru, Siôn Jenkins, a fydd yn cyflwyno cwestiynau ar ran pobl sy’n cofrestru i wylio.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae modd cofrestru trwy Eventbrite.

Dy Ddyfodol - y pynciau pwysig

Ynghyd ag agor cofrestriad pleidleiswyr, mae cyfle hefyd i bobl ifanc gynnig pa bynciau y maen nhw’n credu sydd angen cael eu blaenoriaethau yng ngwaith y Senedd Ieuenctid nesaf. Mae ffurflen ar gael ar-lein i bobl ifanc gyfrannu at y sgwrs.


Y tro diwethaf, dewisodd y Senedd Ieuenctid flaenoriaethu tri phwnc: Iechyd Meddwl, Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm, a Gwastraff Sbwriel a Phlastig, gan gynnal ymholiadau a chyhoeddi adroddiadau i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Meddai Cai Thomas Phillips, cyn Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro;

"Mae angen bod lleisiau pobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau pwysig wrth i ni ddod allan o'r pandemig; gwell ffordd o weithio, adferiad economaidd ar ôl COVID a thaclo dirywiad amgylcheddol. Rwy'n wir yn gobeithio bydd y Senedd Ieuenctid nesaf yn cymryd y cyfle i edrych ar y materion yma a llawer mwy. Mae'n gyfle anhygoel i unrhyw un i roi syniadau newydd a barn i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau."

“Mae eich llais yn bwerus ac mae eich barn yn bwysig i ni i gyd”

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn eu Senedd Ieuenctid;

“Daeth yn amlwg yn ystod y Senedd Ieuenctid gyntaf pa mor angerddol yw pobl ifanc am y materion sydd o bwys iddyn nhw a’u cymunedau. Mae angen i ni glywed eu lleisiau nawr yn fwy nag erioed.

“Rwy’n annog pobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan, i gofrestru i bleidleisio a bod yn rhan o’r sgwrs am y pynciau y dylid eu blaenoriaethu gan y Senedd Ieuenctid nesaf. Mae eich llais yn bwerus ac mae eich barn yn bwysig i bob un ohonom.”

Mae mwy o wybodaeth am gofrestru, pynciau a sut i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru ar gael ar y wefan.